Ffocws Dioddefwyr De Cymru

Mae'r lluniau yn dangos y Cyfarwyddwr Cyfiawnder, Prif Weithredwr Cymorth i Ddioddefwyr ac aelodau tîm Ffocws Dioddefwyr yn ystod eu hymweliad diweddar.

Yn ddiweddar, ymwelodd y Cyfarwyddwr Cyfiawnder â gwasanaeth Aml-drosedd Ffocws Dioddefwyr De Cymru a ariennir gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Roedd Prif Weithredwr Cymorth i Ddioddefwyr, Katie Kempen, hefyd yn bresennol.

Mae gwasanaeth Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn rhoi cymorth wyneb yn wyneb a chymorth o bell i unrhyw un y mae trosedd wedi effeithio arno a chaiff ei gefnogi gan wasanaeth linell gymorth 24/7 wedi’i leoli yn y Ganolfan Gyswllt Genedlaethol yng Nghaerdydd, sy’n rhoi cymorth y tu allan i oriau i ddioddefwyr a thystion sy’n byw yn Ne Cymru.

Yn dilyn cyfarfod cyflwyniadol gyda’r rhai a oedd yn bresennol, rhoddodd rheolwyr a staff Ffocws Dioddefwyr De Cymru gyflwyniad ar y ‘Gwasanaeth i Ddioddefwyr Ffyrdd’ sy’n rhoi cymorth ac eiriolaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i wrthdrawiad traffig ffordd angheuol yn Ne Cymru. Nesaf, trafododd y rhai a oedd yn bresennol sut y gellir cysoni blaenoriaethau’r gwasanaeth a sicrhau eu bod yn cefnogi blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu De Cymru.

Daeth y diwrnod i ben drwy gynnig cyfle i’r rhai a oedd yn bresennol gysgodi staff y gwasanaeth, gan eu galluogi i ddangos gwaith anhygoel y gwasanaeth.

Dywedodd Sian Rees, y Cyfarwyddwr Cyfiawnder:

Roedd yn brofiad arbennig treulio amser yng nghwmni aelodau tîm Ffocws Dioddefwyr De Cymru. Gwnaeth eu cynhesrwydd, eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad diflino i ddioddefwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi cael profedigaeth drwy wrthdrawiadau traffig ffyrdd argraff fawr arnaf. Mae’n amlwg bod y gwasanaeth hwn yn gwneud mwy na dim ond rhoi cymorth, mae’n cynnig urddas, gobaith a llais i’r rhai sy’n dygymod â cholled enfawr. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i weld gwaith y gwasanaeth ac i ystyried sut y gallwn gysoni ein blaenoriaethau i atgyfnerthu cyfiawnder a gofal ledled De Cymru.

Dywedodd Katie Kempen, Prif Weithredwr Cymorth i Ddioddefwyr:

“Roedd yn fraint ymuno â’r Cyfarwyddwr Cyfiawnder wrth iddi ymweld â gwasanaeth Aml-drosedd Ffocws Dioddefwyr De Cymru a gweld ymrwymiad ac arbenigedd ein tîm ar waith. Roedd y trafodaethau am ein Gwasanaeth i Ddioddefwyr Ffyrdd yn effeithiol iawn, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cymorth wedi’i deilwra sy’n ystyriol o drawma i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i wrthdrawiad traffig ffordd. Mae’r gwaith hwn yn enghraifft bwerus o sut mae ein gwasanaethau yn helpu dioddefwyr i ddygymod â chyfnodau anoddaf eu bywydau ac mae’n cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i sicrhau bod dioddefwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Rwy’n ddiolchgar i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru am ei phartneriaeth barhaus ac rwy’n falch o’r gwahaniaeth rydym yn ei wneud gyda’n gilydd i ddioddefwyr ledled De Cymru.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Police & Crime Commissioner, Emma Wools on a walkabout in Merthyr town centre with local officers

Heddlu gweledol yn gwneud gwahaniaeth: Mae’r Comisiynydd yn gweld y dylanwad yn bersonol yng nghanol y dref Merthyr

Gweinidog dros Gyfiawnder a Phlismona, Sarah Jones

UALIT yn Ymuno ag Ymdrech Genedlaethol yng Nghynhadledd Rhaglen Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref

A picture of the Commissioner with South Wales Police Youth Justice Officers and Youth Justice Service staff.

Canlyniad 22: Gweithio gyda’n Gilydd ar Gyfer Plant a Phobl Ifanc