Yr wythnos hon, ymunodd y Comisiynydd a’i thîm yn y dathliadau i nodi carreg filltir arwyddocaol – deng mlynedd ers sefydlu Ffocws Dioddefwyr De Cymru a degawd o gefnogi dioddefwyr troseddau ledled De Cymru.
Darperir Ffocws Dioddefwyr De Cymru gan Cymorth i Ddioddefwyr. Mae’r gwasanaeth aml-drosedd yn rhoi cymorth cyfrinachol ac ymarferol am ddim i unrhyw un y mae troseddau wedi effeithio arnynt, gan helpu pobl yn ystod rhai o adegau mwyaf anodd eu bywydau a chynnig cymorth wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion unigol.
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r gwasanaeth wedi tyfu o fod yn gynllun peilot sy’n datblygu i fod yn wasanaeth cymorth dibynadwy a sefydledig sy’n helpu miloedd o ddioddefwyr ledled De Cymru bob blwyddyn.
Ers datganoli cyllid gwasanaethau dioddefwyr i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2015, mae partneriaid wedi cydweithio’n agos i ddatblygu gwasanaeth sy’n ymateb i anghenion cymunedau lleol yn effeithiol. Arweiniodd y dull gweithredu hwn at sefydlu Ffocws Dioddefwyr De Cymru, a rhoddwyd pwyslais amlwg ar ddarparu cymorth hygyrch i ddioddefwyr wyneb yn wyneb.
Mae’r gwasanaeth wedi parhau i ddatblygu, ac mae gwaith adolygu ac ailgynllunio rheolaidd yn cael ei lywio gan dystiolaeth ac adborth, gan sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn parhau i fod yn ymatebol a’i fod yn canolbwyntio ar y person. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn falch o fod wedi buddsoddi mewn Ffocws Dioddefwyr De Cymru, gan adlewyrchu ymrwymiad parhaus i roi dioddefwyr yn gyntaf.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Comisiynydd gyfle i gyfarfod â’r staff rheng flaen sy’n darparu’r gwasanaeth hwn a diolch iddynt am eu hymroddiad a’r tosturi maent yn ei ddangos, gan gydnabod y gwahaniaeth hanfodol maen nhw’n ei wneud i ddioddefwyr bob dydd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:
“Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn parhau i dyfu ac addasu i anghenion ein cymunedau. Rwy’n hynod o falch o’r effaith y mae wedi’i chael dros y degawd diwethaf a’r gwahaniaeth cadarnhaol y bydd yn parhau i’w wneud i ddioddefwyr ledled De Cymru.”
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Ymchwil Newydd yn Cadarnhau Llwyddiant Timau Atal Trais mewn Adrannau Achosion Brys
Hyfforddiant Seiberstelcio ac Achosion o Gam-Drin a Hwylusir gan Dechnoleg