Dathlu 7 mlynedd o Dimau Atal Trais

Violence Prevention Team Nurse standing outside emergency department

Saith mlynedd ers eu sefydlu, mae Timau Atal Trais (VPT) yn dangos sut y gall gofal iechyd chwarae rhan hanfodol yn atal trais, yn lleihau niwed, ac yn gwella bywydau.

Sefydlwyd y Tîm Atal Trais yng Nghaerdydd yn wreiddiol drwy gyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a chymorth gan yr Uned Atal a Lleihau Trais (gan ehangu yn ddiweddarach i ardal Abertawe yn 2023). Mae bellach yn fenter dan arweiniad eiriolwyr/nyrsys yn Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae’r tîm wedi rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i filoedd o bobl o bob oed sydd wedi dioddef anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais neu sy’n profi neu’n wynebu risg o gam-fanteisio.

Torri’r cylch trais yng Nghymru

Mae trais yn cael effaith barhaol sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r anaf ei hun. Er bod Adrannau Achosion Brys yn darparu triniaeth hanfodol ar gyfer clwyfau corfforol, yn aml iawn nid yw’r ffactorau sy’n cyfrannu at drais yn cael sylw, sy’n golygu bod unigolion yn agored i gael eu niweidio eto.

Bydd nifer o bobl sy’n dioddef trais yn dychwelyd i’r adran Achosion Brys dro ar ôl tro. Bydd unigolyn yn mynd i’r ysbyty ar ôl cael ei anafu, bydd yn cael triniaeth, ac yna bydd yr unigolyn yn cael ei ryddhau. Ond heb ymyrraeth, mae llawer o bobl yn wynebu’r risg o ddioddef trais eto yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y bydd angen rhagor o gymorth gofal iechyd arnynt a byddan nhw’n wynebu canlyniadau gwaeth o ran iechyd a lles yn yr hirdymor.

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Timau Atal Trais wedi bod yn gweithio i newid hyn. Drwy ddarparu cymorth arbenigol ar adegau tyngedfennol, mae timau yn helpu unigolion i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais, defnyddio gwasanaethau priodol, a sicrhau dyfodol mwy diogel.

Mae nyrsys sy’n rhan o’r Timau Atal Trais yn gweithio ochr yn ochr â staff gofal brys i adnabod y cleifion sydd wedi mynd i’r ysbyty o ganlyniad i drais, ac maent yn cynnig cymorth uniongyrchol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r nyrsys yn canolbwyntio ar ddeall amgylchiadau’r unigolyn, nodi unrhyw wendidau, a chysylltu pobl â gwasanaethau a all helpu i leihau’r risg y byddant yn cael eu niweidio eto yn y dyfodol.

Mae enghreifftiau o gymorth yn cynnwys:

  • Cynllunio diogelwch
  • Cymorth emosiynol
  • Eiriolaeth
  • Cymorth tai
  • Cymorth addysg a chyflogaeth
  • Atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd, diogelu a gwasanaethau cymunedol arbenigol

Mae’r dull iechyd y cyhoedd hwn yn cydnabod ei bod hi’n bosibl atal trais ac y gellir gwneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniadau hirdymor drwy ymyrryd yn gynnar.

Tystiolaeth o effaith

Ers 2019, mae’r Tîm Atal Trais wedi cefnogi 5,988 o unigolion drwy gynnig y cyngor, y cymorth neu’r arweiniad y mae eu hangen arnynt. Bwriad y tîm yw defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth ymdrin â phob claf. Maen nhw’n asesu’r unigolyn a’i deulu ac yn galluogi pob claf i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a chael gafael ar y cymorth priodol ar gyfer ei sefyllfa.

Gwelwyd cynnydd o 136% yn nifer yr atgyfeiriadau ers sefydlu’r tîm, gan dynnu sylw at ei effaith gynyddol a’r angen am ddarpariaeth yn y maes ar hyn o bryd. Mae cyfradd ymgysylltu o 79% yn dangos ansawdd y ddarpariaeth ac ymrwymiad staff a chleifion i weithio tuag at greu dyfodol gwell.

Ym mis Ebrill, gwnaeth prosiect ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerefrog a Phrifysgol Abertawe dros gyfnod o dair blynedd – a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) – gadarnhau effeithiolrwydd Timau Atal Trais mewn adrannau Achosion Brys.

Canfu’r gwaith ymchwil fod cymorth gan Dimau Atal Trais yn arwain at y canlynol:

  • Llai o ymweliadau heb eu cynllunio â’r Adran Achosion Brys yn y dyfodol
  • Canlyniadau gwell o ran iechyd ac ansawdd bywyd
  • Gwerth gwell am arian o gymharu â llwybrau gofal safonol
  • Manteision ehangach sy’n ymestyn y tu hwnt i wasanaethau gofal iechyd

Yn bwysig, dangosodd y canfyddiadau fod y dull arloesol hwn, sef dull iechyd y cyhoedd dan arweiniad nyrsys, yn cynnig manteision sylweddol i gleifion, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus, gan helpu i dorri’r cylch trais ledled Cymru.

 Tony, Nyrs o’r Tîm Atal Trais:

“Pe bai [name] heb gael ei gyfeirio at y prosiect hwn, galla i ddweud yn gwbl hyderus ac yn drist iawn y byddai naill ai wedi marw neu byddai ef yn y carchar oherwydd ei sefyllfa. Ni allai fod wedi goresgyn y sefyllfa ar ei ben ei hun.”

“Ond, diolch i’r drefn, roedd ’na drobwynt. Drwy gael cysondeb a gofal go iawn, sylweddolodd ein bod ni wir yn gofalu amdano fe a dechreuodd helpu ei hun.”

 Claf, Y Tîm Atal Trais:

“Roedd hi’n adeg dywyll, frawychus a llom. Doeddwn i ddim yn hoffi fy mywyd. A bod yn onest, roeddwn i eisiau lladd fy hun. Doeddwn i ddim eisiau bod yma.

Ers hynny, mae Tony wedi gwneud pethau’n haws bob dydd drwy ffonio, ymweld â fi neu gynnig unrhyw gymorth sydd ei angen arna i. Mae Tony a Gweithredu dros Blant wedi gallu rhoi hynny i fi.

 Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:

“Wrth i ni ddathlu saith mlynedd o Dimau Atal Trais, hoffwn i ddiolch i’r nyrsys, y gweithwyr achos a’r partneriaid y mae eu hymroddiad wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Rwy’n falch o gefnogi’r gwaith hwn a’r effaith mae’n ei chael, sy’n dangos bod modd i ni atal trais a bod y cymorth priodol yn gallu helpu pobl i greu dyfodol mwy diogel ac iach.”

Saith mlynedd ers eu sefydlu, mae Timau Atal Trais yn parhau i ddangos pŵer ymyrraeth gynnar, gwaith partner a dulliau iechyd y cyhoedd i leihau trais. Gyda chymorth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru drwy’r Uned Atal Trais, mae’r gwaith arloesol hwn yn helpu i greu cymunedau mwy diogel, lleihau niwed a sicrhau bod atal yn parhau i fod wrth galon gwaith i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Emma Wools Jog On

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ariannu ymgyrch ‘Jog On’ i fynd i’r afael ag aflonyddu ar y stryd ac annog riportio

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn Lansio Ymgyrch ar y Cyd yn Annog Pobl i Gerdded i Ffwrdd o Wrthdaro

Deall y newidiadau yn Neddf Dedfrydu 2026 a Sut I Gael Cymorth