DATGANIAD – Ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i Wrthdrawiad E-feic Angheuol.

DATGANIAD – Ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i Wrthdrawiad E-feic Angheuol.

Heddiw, mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn ymchwiliad i wrthdrawiad e-feic angheuol yn Nhrelái, Caerdydd.

Daeth y Swyddfa i’r casgliad y dylai swyddog yn Heddlu De Cymru wynebu gwrandawiad camymddwyn mewn cysylltiad â’i hymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:

“Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ystyried manylion adroddiad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar y digwyddiad yn Nhrelái yn ofalus. Hoffem nodi eto ein cydymdeimladau diffuant â theulu a ffrindiau Kyrees Sullivan a Harvey Evans, yn ogystal â’r rhai yn y gymuned yr effeithiwyd arnynt gan y terfysg a ddigwyddodd. Rydym yn gwybod ac yn deall dyfnder y teimladau yn y gymuned, ac mae’r Comisiynydd yn gwbl ymrwymedig i sicrhau y caiff gwersi eu dysgu o’r adroddiad hwn, a bydd yn gwneud datganiad llawn maes o law.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
PCC with Foundation 4 Sport Cardiff staff members

Creu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc ledled Caerdydd

Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Cadw Cymunedau’n Ddiogel: Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd

Emma Wools at Cardiff City Football Club Community Foundation

Buddsoddi £125,000 i Ehangu’r Rhaglen “Premier League Kicks” i Gefnogi Pobl Ifanc Ledled De Cymru