Cylchlythyr CHTh – Rhagfyr 2025

Pan wnaethoch fy ethol fel eich Comisiynydd, mi wnes i ymrwymiad i wasanaethu pob un o’n cymunedau a gweithio i greu De Cymru Diogel, Cyfiawn a Chynhwysol. Rwyf yn ymrwymedig i gyflawni’r weledigaeth honno, a byddaf yn gweithio bob un dydd i ennill eich ymddiriedaeth, i wrando ac i weithredu.

Mae’r cylchlythyr hwn yn gyfle i chi glywed am fy ngwaith, lle rwyf wedi bod, pwy rwyf wedi cyfarfod â nhw, ac i ddangos sut rwyf yn cyflawni eich blaenoriaethau. Mae hefyd yn gyfle i chi gysylltu a rhannu eich barn a’ch safbwyntiau am sut y gallwn gyflawni’r weledigaeth o ardal ddiogel, gyfiawn a chynhwysol gyda’n gilydd.

Gobeithio y bydd yn rhoi gwybodaeth i chi ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol!

Adnoddau

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Cylchlythyr CHTh – Rhagfyr 2025

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Emma Wools Jog On

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ariannu ymgyrch ‘Jog On’ i fynd i’r afael ag aflonyddu ar y stryd ac annog riportio

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn Lansio Ymgyrch ar y Cyd yn Annog Pobl i Gerdded i Ffwrdd o Wrthdaro

Deall y newidiadau yn Neddf Dedfrydu 2026 a Sut I Gael Cymorth