Comisiynydd yn ymweld â chlwb bocsio Caerau Ely i weld cyllid cymunedol ar waith

Ddydd Gwener, gwnaeth y Comisiynydd ymweld â Chlwb Bocsio Caerau a Threlái, ynghyd â’r AS dros Orllewin Caerdydd, Alex Barros-Curtis, a’r Arolygydd Heddlu lleol Tim Ursell.

Roedd yr ymweliad yn dilyn apêl a wnaed yn gynharach eleni gan Liam Mackay, sy’n rhedeg y clwb bocsio, wedi iddo rannu postiad ar Instagram yn gofyn am gymorth i helpu i ariannu cylch bocsio newydd. Roedd y Comisiynydd yn falch ei bod wedi gallu cefnogi’r clwb a gweld y dylanwad y mae’r buddsoddiad wedi’i gael ar blant a phobl ifanc yn y gymuned yn bersonol.

Yn ystod yr ymweliad, roedd yn amlwg pa mor bwysig yw mannau cymunedol fel Clwb Bocsio Caerau a Threlái. Y tu hwnt i chwaraeon, mae’r clwb yn cynnig modelau rôl cadarnhaol, strwythur, disgyblaeth a man diogel i bobl ifanc feithrin hyder a gwydnwch. Amlinellodd yr ymweliad y gwahaniaeth go iawn y gall mynediad at y cyfarpar cywir a chymorth parhaus ei gael wrth helpu pobl ifanc i ffynnu.

Ategodd y Comisiynydd bwysigrwydd buddsoddiad parhaus mewn grwpiau cymunedol ledled De Cymru, yn enwedig y rhai hynny sy’n cefnogi plant a phobl ifanc. Mae’r ymrwymiad hwn yn cyd-fynd â Chynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Blant a Phobl Ifanc a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n nodi chwe blaenoriaeth glir i sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu clywed a’u parchu yn eu cymunedau. Mae sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn helpu i lywio penderfyniadau o ran plismona a diogelwch cymunedol yn ganolog i’r cynllun.

Pan oedd yn y clwb, cymerodd y Comisiynydd hefyd y cyfle i siarad â rhai o’r bobl ifanc sy’n mynychu’n rheolaidd. Roedd clywed yn uniongyrchol ganddynt am eu blaenoriaethau, eu pryderon a’u profiadau o blismona yn ddifyr ac yn arbennig, gan atgyfnerthu gwerth ymgysylltu ystyrlon â phobl ifanc ar lefel leol.

Mae’r Comisiynydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud cymunedau’n fwy diogel drwy gefnogi grwpiau, clybiau a gwasanaethau ieuenctid cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn a pharhaus.

Mae’r Comisiynydd yn awyddus i glywed gan grwpiau cymunedol ledled De Cymru ac yn annog y rheini sy’n gwneud gwaith cadarnhaol yn eu hardaloedd i gysylltu â’r Swyddfa, gyda’r bwriad o drefnu ymweliadau yn y dyfodol.

Bydd buddsoddi mewn cymunedau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan sicrhau bod De Cymru yn parhau i symud tuag at fod yn lle diogel, cyfiawn a chynhwysol i bawb.

 

 

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Police & Crime Commissioner, Emma Wools on a walkabout in Merthyr town centre with local officers

Heddlu gweledol yn gwneud gwahaniaeth: Mae’r Comisiynydd yn gweld y dylanwad yn bersonol yng nghanol y dref Merthyr

Gweinidog dros Gyfiawnder a Phlismona, Sarah Jones

UALIT yn Ymuno ag Ymdrech Genedlaethol yng Nghynhadledd Rhaglen Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref

A picture of the Commissioner with South Wales Police Youth Justice Officers and Youth Justice Service staff.

Canlyniad 22: Gweithio gyda’n Gilydd ar Gyfer Plant a Phobl Ifanc