Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru i roi tystiolaeth ar Ddiwygio’r Heddlu ym Mhwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Ddydd Mercher 8 Gorffennaf 2026, bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn San Steffan i roi tystiolaeth yn y Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae Aelodau Seneddol wedi gofyn am glywed gan y Comisiynwyr yng Nghymru ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a strwythurau’r lluoedd, yn ogystal â materion troseddu cyfoes yng Nghymru, fel rhan o’r sesiwn dystiolaeth.

Gofynnir i bob un o’r pedwar Comisiynydd roi tystiolaeth yn unol â sawl cwestiwn penodol a fydd yn canolbwyntio ar gyflawnadwyedd diwygiadau’r Papur Gwyn, dyfodol llywodraethu plismona yng Nghymru, ac effeithiau posibl newidiadau strwythurol fel uno lluoedd a chreu Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried rôl Llywodraeth Cymru, i ba raddau y gellir cynnal blaenoriaethau Cymru ac atebolrwydd lleol, a pha mor effeithiol y gellir rheoli heriau trawsffiniol.

Bydd y cwestiynau hefyd yn mynd i’r afael ag ymrwymiadau mewn perthynas â’r gweithlu, gan gynnwys y cynnydd arfaethedig yn nifer y swyddogion, ac yn archwilio a yw trefniadau cyllid ar gyfer lluoedd Cymru nawr ac yn y dyfodol yn deg ac yn gynaliadwy.

Yn gyffredinol, bydd y ffocws ar sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau yn cryfhau plismona wrth amddiffyn anghenion a buddiannau cymunedau ledled Cymru.

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Parliamentlive.tv, gwasanaeth fideo swyddogol Senedd y Deyrnas Unedig, o 14:30 ar 8 Gorffennaf.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Pencadlys Heddlu De Cymru / Picture of South Wales Police Headquarters

Y Prif Gwnstabl Vaughan yn ymddeol ac yn cael ei ailbenodi – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Front Cover of Booklet, with image of 3 women in a heart shape made using hands

Cam-drin Domestig o Ofn i Ryddid: Canllaw i Fenywod ar draws Cymru

Picture of Police & Crime Commissioner, Emma Wools, with local Councillors, MP and Local Inspector in Whitchurch

Ymdrechion mewn partneriaeth yn dwyn ffrwyth wrth ymosod ar e-gerbydau anghyfreithlon yng Ngogledd Caerdydd