Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu Prosiect Athena

Canllawiau Seriberstelcio ac Aflonyddu

Prosiect Athena

Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu

Diffiniadau 

  • Defnydd mynych a bwriadol o’r rhyngrwyd a dulliau cyfathrebu electronig eraill i gyfathrebu mewn modd parhaus a dieisiau gyda’r bwriad o ddychryn rhywun, ei fygwth neu aflonyddu arno yw seiberstelcio 
  • Cam-drin y gellir ond ei gyflawni drwy ddefnyddio technoleg ddigidol e.e. hacio, ysbïwedd yw cam-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber. 
  • Cam-drin ‘traddodiadol’ ydyw sy’n cael ei hwyluso gan ddulliau seiber e.e. seiberstelcio, neu dwyll ar-lein fel swyno drwy dwyll. 
Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu

Beth yw Prosiect Athena? 

Dogfen gymorth hawdd ei deall yw Prosiect Athena. Fe’i datblygwyd gan Heddlu De Cymru ac mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr Seiberstelcio ac Aflonyddu a darparu canllawiau trylwyr i ddioddefwyr, gweithwyr proffesiynol a’r Heddlu ar yr un pwnc. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys camau manwl y gall unigolion eu cymryd i ddiogelu eu hunain ar-lein ac wrth ddefnyddio technoleg/rhaglenni ar-lein. Mae’n cwmpasu troseddau a cham-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber ac sy’n cael eu hwyluso gan ddulliau seiber, ac mae wedi’i drefnu fesul categori e.e., y cyfryngau cymdeithasol, ffonau symudol a thechnoleg cartref clyfar.  

Myfyrwraig Raddedig mewn Seiberddiogelwch ac Arweinydd Datblygiad Prosiect Athena, Chloe Williams: ‘Drwy gwblhau Prosiect Athena, rwy’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr Seiberstelcio ac Aflonyddu. Hefyd, rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi gwybodaeth i swyddogion, staff a goroeswyr am ffyrdd o sicrhau diogelwch dyfeisiau ac atal y troseddau hyn rhag digwydd.’ 

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools: “Prosiect Athena yw’r union fath o ddull cydlynol sy’n canolbwyntio ar ddioddefwr sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o seiberstelcio. Mae seiberstelcio yn treiddio pob rhan o fywyd person, yn aml yn gwneud i ddioddefwyr deimlo’n ynysig ac yn anniogel. Drwy ddod â Heddlu De Cymru a gwasanaethau cymorth ynghyd ledled ein rhanbarth, gallwn sicrhau ein bod yn amddiffyn dioddefwr mewn ffordd fwy effeithiol a dwyn cyflawnwyr i gyfrif. Mae’n bleser gennyf gefnogi Prosiect Athena a’i ymrwymiad i ddiogelu pob un o’n cymunedau rhag niwed digidol, mae’n elfen hollbwysig o’n nod o ddarparu’r De Cymru diogel, cyfiawn a chynhwysol sydd ei angen arnom ac rydym yn dymuno ei weld.

Latest Resources

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Pencadlys Heddlu De Cymru / Picture of South Wales Police Headquarters

Y Prif Gwnstabl Vaughan yn ymddeol ac yn cael ei ailbenodi – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Front Cover of Booklet, with image of 3 women in a heart shape made using hands

Cam-drin Domestig o Ofn i Ryddid: Canllaw i Fenywod ar draws Cymru

Picture of Police & Crime Commissioner, Emma Wools, with local Councillors, MP and Local Inspector in Whitchurch

Ymdrechion mewn partneriaeth yn dwyn ffrwyth wrth ymosod ar e-gerbydau anghyfreithlon yng Ngogledd Caerdydd