Cadw Cymunedau’n Ddiogel: Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd

Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Mae diogelwch ar y ffyrdd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cerbydau yn parhau i fod yn bryderon allweddol i drigolion ledled de Cymru. Mae’r materion hyn yn cael eu codi’n rheolaidd gyda’r Comisiynydd, wrth i lawer o bobl rannu’r effaith maen nhw’n ei chael ar eu bywydau beunyddiol a pha mor anniogel y gall yr ymddygiad hwn wneud iddynt deimlo.

Er mwyn deall yn well sut mae timau plismona ffyrdd yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, ymunodd y Comisiynydd â swyddogion ar gyfer shifft y tu ôl i’r llenni. Roedd yr ymweliad yn gyfle i weld realiti’r rôl, deall yr heriau y mae swyddogion yn eu hwynebu, a siarad yn uniongyrchol â staff rheng flaen am eu gwaith i ddiogelu cymunedau.

Mae swyddogion yn gweithio ddydd a nos i ymateb i argyfyngau, ymchwilio i wrthdrawiadau difrifol, tarfu ar droseddu a thargedu’r rheini sy’n defnyddio ein ffyrdd i achosi niwed. Mae llawer o’r gwaith hwn yn mynd heb ei weld, ond mae’n chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn y cyhoedd bob dydd.

Gwnaeth y shifft dynnu sylw’n gyflym at nifer y digwyddiadau y mae swyddogion yn delio â nhw sy’n ymwneud â’r defnydd peryglus ac anghyfrifol o e-gerbydau. O ymddygiad gwrthgymdeithasol i risgiau sylweddol i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, dyma her fwyfwy gyffredin ym myd plismona.

Roedd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) yn cefnogi swyddogion ar y llawr, gan ddarparu golwg o’r awyr ar ddigwyddiadau wrth iddynt ddatblygu. Diolch i’r cymorth o’r awyr, roedd modd i swyddogion olrhain pobl dan amheuaeth, monitro symudiadau a defnyddio adnoddau yn fwy effeithiol, gan helpu timau i wneud penderfyniadau gwybodus a defnyddio tactegau priodol i darfu ar y rheini a oedd yn achosi niwed.

Wrth arsylwi ar yr ymateb cydgysylltiedig rhwng swyddogion Plismona Ffyrdd a’r NPAS, amlygwyd pa mor gymhleth yw mynd i’r afael â phroblem sy’n parhau i effeithio ar gymunedau ledled de Cymru. Rhaid cydbwyso’n ofalus unrhyw waith i erlid troseddwyr â diogelwch y cyhoedd, ac yn aml bydd hynny’n gofyn am adnoddau sylweddol, tactegau arbenigol a chydlynu agos rhwng timau.

Er y gwnaeth y shifft ddangos penderfyniad swyddogion i fynd i’r afael â’r problemau hyn, atgyfnerthodd hefyd nad yw gorfodi ar ei ben ei hun yn ddigon. Er mwyn ategu plismona rhagweithiol a gwella diogelwch y cyhoedd, mae’r Comisiynydd yn credu bod angen deddfwriaeth gryfach a rheoleiddio cliriach i fynd i’r afael â chamddefnyddio e-gerbydau mewn modd peryglus.

Wrth fyfyrio ar y profiad, dywedodd y Comisiynydd:

“Yr hyn a welais oedd proffesiynoldeb, sgil ac ymrwymiad ein swyddogion Plismona Ffyrdd, sy’n gweithio’n ddiflino i gadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, roedd hefyd yn amlwg bod camddefnyddio e-gerbydau mewn modd peryglus yn dod yn broblem gynyddol gyffredin, gan roi cymunedau mewn perygl a chreu heriau sylweddol wrth blismona. Rhaid i ni sicrhau bod gan swyddogion y ddeddfwriaeth a’r pwerau sydd eu hangen arnynt i ymateb yn effeithiol, a byddaf yn parhau i bwyso am reoleiddio a gweithredu cryfach ar lefel genedlaethol.”

Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Emma Wools Jog On

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ariannu ymgyrch ‘Jog On’ i fynd i’r afael ag aflonyddu ar y stryd ac annog riportio

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn Lansio Ymgyrch ar y Cyd yn Annog Pobl i Gerdded i Ffwrdd o Wrthdaro

Deall y newidiadau yn Neddf Dedfrydu 2026 a Sut I Gael Cymorth