Buddsoddi £125,000 i Ehangu’r Rhaglen “Premier League Kicks” i Gefnogi Pobl Ifanc Ledled De Cymru

PCC at Cardiff City FC Community Foundation

Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i Sefydliadau Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe i ehangu eu rhaglenni Premier League Kicks sydd wedi’u targedu i gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu risg uwch o drais, camfanteisio, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac allgáu o addysg ledled de Cymru.

Mae’r buddsoddiad gwerth £125,000 yn cynnwys £50,000 o Gronfa Partneriaethau Heddlu’r Uwch Gynghrair ochr yn ochr ag ymrwymiad o £75,000 gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools drwy Uned Atal a Lleihau Trais De Cymru, i gefnogi sesiynau sydd â’r nod o ddarparu cyfleoedd cadarnhaol ac ymyrraeth gynnar, gan helpu pobl ifanc i feithrin hyder a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r prosiect yn cael ei gyflawni rhwng mis Ebrill 2026 a mis Awst 2027 drwy ystod o leoedd cymunedol a chwaraeon hygyrch ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae’n darparu mwy na 200 o sesiynau Premier League Kicks wedi’u targedu ar gyfer pobl ifanc 8 i 25 oed ledled Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Mae sesiynau’n darparu cymorth cynnar i bobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau i addysg prif ffrwd, gan gynnwys heriau ymddygiadol ac anghenion cymhleth. Gan ddefnyddio pŵer pêl-droed, mae’r rhaglenni yn helpu i leihau’r risg o gamfanteisio ac ymddieithrio, wrth gefnogi pobl ifanc i fagu hyder, sefydlogrwydd a llwybrau hirdymor mwy cadarnhaol. Yn ogystal, mae rhaglen Abertawe yn darparu aelod o staff cyson ar draws sesiynau yn yr ysgol a’r gymuned, gan hyrwyddo neges gyson ynghylch ymddygiadau cadarnhaol a modelu rôl.

Mae’r angen brys am y rhaglen hon i’w weld yn y data lleol a chenedlaethol. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn nodi cymunedau ar draws Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru lle ceir anfantais hirsefydlog, gwaharddiadau o’r ysgol, a maent hefyd yn fwyfwy agored i droseddau cyllyll, camfanteisio a thrais.

Drwy weithdai strwythuredig, mae’r sefydliadau cymunedol yn cynnig mentora a chymorth iechyd meddwl, gan gynnwys ymyrraeth sefydledig yr adnodd #DdimYrUn. Mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, mae’r sesiynau hyn yn mynd i’r afael â throseddau cyllyll, trais difrifol a dylanwad gan gymheiriaid, gan helpu pobl ifanc i archwilio risgiau, canlyniadau a dewisiadau cadarnhaol drwy drafodaeth a dysgu ar sail senarios.

Mae cyfranogwyr rhaglen Caerdydd hefyd yn cael eu cefnogi i ddilyn llwybrau addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth drwy’r Sefydliad Cymunedol, gan helpu’r rheini sydd mewn perygl o ddod yn NEET, neu sydd eisoes wedi’u hymddieithrio, i gymryd rhan mewn dysgu a chyfleoedd unwaith eto.

Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar fwy na 15 mlynedd o gyflawni drwy’r rhaglen Premier League Kicks, a ariennir gan Sefydliad yr Uwch Gynghrair, sy’n darparu gweithgareddau pêl-droed a chefnogaeth wedi’u targedu, am ddim, i bobl ifanc sydd mewn perygl o ymwneud â thrais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhai o ardaloedd mwyaf anghenus Cymru a Lloegr.

Canfu arolwg o bobl ifanc sydd wedi ymgysylltu â’r Sefydliad Cymunedol yn y lleoliadau hyn:

  • Dywedodd 74% fod gwell mynediad at gyfleoedd cadarnhaol a datblygu sgiliau
  • Dangosodd 74% well ymddygiad yn dilyn gweithdai, gan gynnwys sesiynau #DdimYrUn
  • Dywedodd 74% eu bod yn credu’n gryfach yn eu gallu i gyfrannu at gymunedau mwy diogel a mwy cynhwysol

Gwnaeth pobl ifanc sy’n rhan o’r rhaglen dynnu sylw at y ffaith bod Premier League Kicks yn llawer mwy na phêl-droed. Mae’n rhoi lle iddynt gael hwyl, gwneud ffrindiau a magu hyder ochr yn ochr ag eraill sy’n rhannu eu brwdfrydedd am y gêm. Mae’r rhaglen yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan, dysgu sgiliau newydd a datblygu ar y cae ac oddi arno heb rwystrau ariannol. Gwnaethant hefyd ganmol y berthynas â hyfforddwyr, gan ddarparu modelau rôl dibynadwy a’u helpu i deimlo cymhelliant, bod cymorth iddynt a’u bod yn gysylltiedig a’u cymunedau.

Wedi’u llywio gan ddeallusrwydd lleol, bydd Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a’u partneriaid yn parhau i ddarparu cymorth ataliol parhaus gyda’r nod o leihau trais, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cyllyll. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar feithrin gwydnwch, atgyfnerthu’r broses gwneud penderfyniadau a chreu mannau diogel a dibynadwy mewn cymunedau lleol.

Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:

“Drwy Uned Atal a Lleihau Trais De Cymru, rwy’n falch iawn o roi cyllid i Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, ochr yn ochr â Sefydliad yr Uwch Gynghrair.

Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos cryfder gweithio mewn partneriaeth ledled de Cymru, gan ddod â sefydliadau at ei gilydd i greu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc fagu hyder, hyrwyddo dewisiadau cadarnhaol a gweld pŵer pêl-droed ar waith.

Yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder Plant a Phobl Ifanc, nodais fy ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, ac mae’n ysbrydoliaeth gweld y sylfeini hyn yn eu grymuso ac yn eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.”

Dywedodd Zac Lyndon-Jones, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd:

“Mae sicrhau’r buddsoddiad hwn yn gam pwysig, ond mae’n rhaid i’r ffocws bob amser aros ar y person ifanc sydd wrth wraidd iddo.

Yn Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, mae pêl-droed yn rhoi rhywbeth unigryw i ni: cysylltiad uniongyrchol. Mae’n agor drysau, yn magu ymddiriedaeth ac yn meithrin perthnasoedd lle gall fod yn anodd i systemau traddodiadol ymgysylltu.

Ein cyfrifoldeb nawr yw troi cyllid a phartneriaethau yn fynediad ac yn gyfleoedd go iawn. Pan fo pobl ifanc yn teimlo ein bod yn cysylltu â nhw, yn eu cefnogi ac yn eu deall, mae newid yn dilyn, ac mae eu hyder, eu hymddygiad a’u huchelgeisiau yn adlewyrchu hyn.

Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad yr Uwch Gynghrair am eu buddsoddiad sylweddol a pharhaus sy’n ein galluogi i wneud gwahaniaeth parhaol yn rhai o gymunedau mwyaf agored i niwed de Cymru.”

Dywedodd Tom Williams, Pennaeth Rhaglenni i Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru i gefnogi pobl ifanc ar draws ein cymunedau. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn drwy ddarparu mentora, cyfleoedd dysgu a sesiynau pêl-droed am ddim mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Drwy gynnig cymorth cynnar, arweiniad cyson a modelau rôl cadarnhaol, gallwn helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus ac i ddewis canlyniadau cadarnhaol.

Mae’r gwaith hwn yn chwarae rhan bwysig wrth atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng yr ysgol, y cartref a’r gymuned, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi yn ystod adegau allweddol y tu allan i’r diwrnod ysgol ac yn teimlo eu bod yn gysylltiedig, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u hysbrydoli.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Cadw Cymunedau’n Ddiogel: Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd

Llun o Comisiynydd Heddlu & Troseddu De Cymru, gyda swyddogion Heddlu De Cymru a staff o Cyngor Rhondda Cynon Taf

Bennod newydd yn dechrau wrth i Orsaf Heddlu Pontypridd gael eu drosglwyddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf

Ateb eich cwestiynau. Podcast newydd. Llun o Comisiynydd a prif gwnstabl.

Y Comisiynydd yn lansio podlediad i roi sylw i’r cwestiynau a’r pryderon sydd gan drigolion