Mae’r hen orsaf heddlu ar Heol Berw bellach wedi cau, a bydd yn trosglwyddo i feddiant y Cyngor yn rhan o gynlluniau ehangach i fwrw ymlaen ag ailddatblygiad mawr yng nghanol y dref. Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i wasanaethu Pontypridd o safle newydd, mwy gweladwy a hygyrch ar Stryd y Taf.
Mae gwaith ar yr orsaf newydd ar Stryd y Taf eisoes yn mynd rhagddo. Bydd ei lleoliad yng nghanol siopau’r dref yn sicrhau bod swyddogion yn agosach at galon y dref, gan ei gwneud hi’n haws i drigolion, busnesau ac ymwelwyr siarad â thimau plismona lleol, ceisio cymorth a rhoi gwybod am bryderon.
Mae Heddlu De Cymru wedi pwysleisio na fydd ymateb yr heddlu lleol yn lleihau yn ystod y cyfnod pontio. Bydd swyddogion yn parhau i ymateb i alwadau brys a rhai nad ydyn nhw’n frys, bydd timau cymdogaeth yn parhau i fod yn weithgar ym Mhontypridd a’r cyffiniau, a bydd technoleg symudol yn helpu swyddogion i dreulio rhagor o amser yn y gymuned.
Hyd nes y bydd gorsaf newydd Pontypridd yn agor, gall unrhyw un sydd angen siarad â’r heddlu wyneb yn wyneb fynd i Orsaf Heddlu Tonysguboriau, 1/3 Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, CF72 8AJ. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Mae timau’r heddlu oedd wedi’u lleoli ar Heol Berw gynt wedi symud i Dŷ Trevithick, hen adeilad y Cyngor, sy’n darparu mwy o le a chapasiti ar gyfer timau gweithredol. Bydd y safle’n cael ei ddefnyddio fel pencadlys rhanbarthol newydd ardal blismona Morgannwg Ganol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools: “Dyma enghraifft wych arall o’r Cyngor a Heddlu De Cymru yn cydweithio i wella’r cyfleusterau cyhoeddus ym Mhontypridd, gan alluogi’r heddlu i adleoli’n agosach a bod yn fwy hygyrch i’r cyhoedd hefyd. Drwy gyfnewid yr adeiladau cyhoeddus yn y modd hwn, mae modd sicrhau’r gwerth gorau wrth gyflawni’r gwelliannau y mae’r dref a threfn plismona’r ardal eu hangen yn fawr. Rwy’n edrych ymlaen at agor gorsaf canol y dref yn ddiweddarach eleni.”
Dywedodd Comander yr Uned Reoli Sylfaenol, y Prif Uwch-arolygydd Jason Rees: “Mae Pontypridd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Mae newid lleoliad yn ymwneud â sicrhau bod ein swyddogion yn y lleoedd cywir, a bod ganddynt y cyfleusterau cywir i wasanaethu’r gymuned nawr ac yn y dyfodol.
“Mae adeilad Heol Berw wedi gwasanaethu Pontypridd a’r ardal ehangach ers blynyddoedd lawer, ond mae plismona wedi newid ac mae angen cyfleusterau modern a hyblyg arnon ni sy’n cefnogi plismona lleol gweladwy ac ymatebol.
“Bydd ein swyddogion yn parhau i fod yng nghanol y dref, yn siarad â thrigolion a busnesau, yn ymateb i alwadau ac yn gweithio gyda phartneriaid i gadw pobl yn ddiogel. Bydd yr orsaf newydd ar Stryd y Taf yn ategu’r presenoldeb lleol yma ac yn ei gwneud hi’n haws i gael mynediad aton ni.”
I’r Cyngor, mae caffael gorsaf heddlu Heol Berw a safle’r maes parcio cyfagos yn creu cyfle pwysig i helpu’r gwaith parhaus o adfywio canol tref Pontypridd.
Mae disgwyl i’r cyfnod dymchwel ddechrau yn yr wythnosau nesaf a bydd yn cael ei gefnogi drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae cwmni Prichards wedi cael ei benodi’n gontractwr a bydd manylion pellach am amseru, rheoli traffig a chyngor parcio yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd cyn gynted ag y bydd y trefniadau wedi’u cadarnhau. Bydd Maes Parcio Heol Berw yn cau pan fydd y gwaith dymchwel yn dechrau.
Mae’r ailddatblygiad ehangach yn parhau i gael ei gynllunio, gyda dewisiadau’n cynnwys mannau cyhoeddus gwell, maes parcio newydd modern, cysylltiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio, gwelliannau i gyffordd ar Stryd y Bont a chyfleoedd i ddatblygu adeiladau preswyl, masnachol a diwylliannol newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Adfywio a Thai: “Dyma foment bwysig i Bontypridd. Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cadw presenoldeb gweladwy a hygyrch yng nghanol y dref, wrth i’r Cyngor fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ailddatblygu safle allweddol.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd trigolion a busnesau eisiau gwybodaeth glir am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Byddwn ni’n parhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned ynglŷn â threfniadau dymchwel, cyngor parcio a’r cynigion hirdymor wrth iddyn nhw ddatblygu. Ein nod yw cyflawni cynllun sy’n cefnogi canol y dref, yn gwella cysylltedd ac yn gwneud y defnydd gorau o’r safle pwysig yma.”
Gwybodaeth i Drigolion
Ydy Gorsaf Heddlu Pontypridd wedi cau? Ydy. Caeodd yr orsaf ar Heol Berw ddiwedd mis Mehefin 2026.
Ydy’r heddlu’n gadael canol tref Pontypridd? Nac ydyn. Mae Heddlu De Cymru yn symud i orsaf newydd ar Stryd y Taf, a bydd swyddogion yn parhau i gynnal patrolau, ymateb i alwadau, a gweithio gyda’r gymuned leol.
Ble galla i siarad â’r heddlu wyneb yn wyneb cyn i’r orsaf newydd agor? Gallwch chi fynd i Orsaf Heddlu Tonysguboriau, 1/3 Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, CF72 8AJ.
A fydd galwadau’n parhau i gael eu hateb? Byddan. Bydd gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu. Ffoniwch 101 os nad yw’n argyfwng, a ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
The former police station on Berw Road has now closed and will transfer to the Council as part of wider plans to bring forward a major town centre redevelopment. South Wales Police will continue to serve Pontypridd from a new, more visible and accessible base on Taff Street.
Work is already underway on the new Taff Street station. Its shopfront location will put officers closer to the heart of the town, making it easier for residents, businesses and visitors to speak to local policing teams, seek help and report concerns.
South Wales Police has stressed that the local policing response will not be reduced during the transition. Officers will continue to respond to emergency and non-emergency calls, neighbourhood teams will remain active in and around Pontypridd, and mobile technology will help officers spend more time out in the community.
Until the new Pontypridd station opens, anyone who needs to speak to police in person can attend Talbot Green Police Station, 1/3 Heol y Gyfraith, Talbot Green, CF72 8AJ. In an emergency, always call 999.
Police teams previously based at Berw Road have moved to Ty Trevithick, the former Council building, which provides more space and capacity for operational teams. The site will become the new divisional headquarters for Mid Glamorgan policing area.
South Wales Police and Crime Commissioner, Emma Wools said, “This is yet another great example of the council and South Wales Police working together to improve the public amenities in Pontypridd, whilst also enabling the police to relocate closer and be more accessible to the public. By swapping the public buildings in this way ensures best value in delivering the much-needed improvements to the town and to the policing of the area. I look forward to the opening of the town centre station later this year.”
BCU Commander Chief Superintendent Jason Rees said: “Pontypridd remains a priority for South Wales Police. This move is about making sure our officers are in the right places, with the right facilities, to serve the community now and in the future. The Berw Road building has served Pontypridd and the wider area for many years, but policing has changed and we need modern, flexible facilities that support visible, responsive local policing.
Our officers will continue to be out in the town centre, speaking to residents and businesses, responding to calls and working with partners to keep people safe. The new station on Taff Street will strengthen that local presence and make us easier to access. For the Council, acquiring the Berw Road police station and the adjacent car park site creates an important opportunity to support the continued regeneration of Pontypridd town centre.
The demolition phase is expected to begin in the coming weeks and will be supported through Welsh Government’s Transforming Towns programme. Prichards has been appointed as contractor and further details on timing, traffic management and parking advice will be shared with the public as soon as arrangements are confirmed. Berw Road Car Park will close when demolition begins. The wider redevelopment is still being developed, with options including improved public space, a modern replacement car park, better links for walking and cycling, junction improvements at Bridge Street and opportunities for new residential, commercial and cultural uses”.
Councillor Mark Norris, Rhondda Cynon Taf Council’s Cabinet Member for Regeneration and Housing, said: “This is an important moment for Pontypridd. South Wales Police has confirmed that it will retain a visible and accessible town centre presence, while the Council is able to move forward with plans for a key redevelopment site. We know residents and businesses will want clear information about what happens next. We will continue to keep the community updated on demolition arrangements, parking advice and the longer-term proposals as they develop. Our aim is to deliver a scheme that supports the town centre, improves connectivity and makes best use of this important site.”
What residents need to know
Has Pontypridd Police Station closed? Yes. The Berw Road station closed at the end of June 2026.
Are police leaving Pontypridd town centre? No. South Wales Police is moving to a new station on Taff Street and officers will continue to patrol, respond to calls and work with the local community.
Where can I speak to police in person before the new station opens? You can attend Talbot Green Police Station, 1/3 Heol y Gyfraith, Talbot Green, CF72 8AJ.
Will calls still be answered? Yes. Service delivery will continue. Call 101 for non-emergencies and always call 999 in an emergency.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Y Comisiynydd yn lansio podlediad i roi sylw i’r cwestiynau a’r pryderon sydd gan drigolion
Y Prif Gwnstabl Vaughan yn ymddeol ac yn cael ei ailbenodi – Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu