16 Diwrnod o Weithredu Rhuban Gwyn 2025

Beth yw Rhuban Gwyn a’r 16 Diwrnod o Weithredu?  

Diwrnod Rhuban Gwyn yw’r diwrnod rhyngwladol i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Mae rhuban gwyn adnabyddus yr ymgyrch yn symbol rhyngwladol o’r heddwch rydym am ei gyflawni, lle nad yw trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched yn cael ei oddef.  

Mae Rhuban Gwyn yn annog dynion i godi eu llais yn erbyn ymddygiad treisgar a rhywiaethol gan ddynion eraill, ac mae’r 16 Diwrnod o Weithredu sy’n dilyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i rannu gwybodaeth â’r cyhoedd mewn ffordd gyfunol i godi ymwybyddiaeth am drais ar sail rhywedd ac i gyfeirio pobl at wasanaethau i ddioddefwyr, yn ogystal â gwasanaethau ymyrraeth. 

PCC at white ribbon event

Beth mae Rhuban Gwyn yn ei olygu i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (y Comisiynydd) De Cymru, Emma Wools? 

Mae’r Comisiynydd Emma Wools wedi addo i chi gyd yn ei Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder (2025-29) y bydd yn Amddiffyn Pobl a Chymunedau sy’n Agored i Niwed, gan gynnwys amddiffyn ar-lein rhag camfanteisio a niwed. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn a chefnogi dioddefwyr o bob math o drais yn erbyn menywod a merched a deall y ffactorau sy’n ysgogi cyflawni troseddau er mwyn ymateb iddynt yn briodol drwy ddull system gyfan. Mae’r Comisiynydd hefyd wedi addo yn ei Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Bobl Ifanc y bydd yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc mewn sefyllfaoedd bregus.  

Ond nid yw hyn yn rhywbeth y gall y Comisiynydd ei gyflawni ar ei phen ei hun – mae rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched yn ymdrech leol, genedlaethol a ryngwladol, felly byddwn yn parhau i weithio â phartneriaid fel Sefydliadau Iechyd, yr Heddlu, Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Anllywodraethol yn ogystal ag asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill i weithio tuag at y nod rydym yn ei rannu o Dde Cymru Diogel, Cyfiawn a Chynhwysol.  

Cafodd y Comisiynydd y fraint o siarad mewn digwyddiad Diwrnod Rhuban Gwyn yn Llyfrgell Pontypridd ar 25 Rhagfyr, lle ddywedodd:

‘… ar y Diwrnod Rhuban Gwyn hwn, hoffwn ddiolch i bawb sy’n cymryd y cam ac yn codi eu llais i herio rhywiaeth ac i helpu i ddileu trais yn erbyn menywod a merched.’ 

CHTh Emma Wools

Beth oedd ein hymgyrch gyfathrebiadau Rhuban Gwyn? 

Dros gyfnod o 16 diwrnod rhwng 25 Tachwedd – 10 Rhagfyr, mae’r Comisiynydd wedi rhannu gwybodaeth am wasanaethau wedi’u comisiynu i ddioddefwyr ac ymyraethau, adnoddau, ymgyrchoedd, llinellau a phecynnau cymorth a chanllawiau sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys ar-lein, ar amrywiaeth o sianeli cyfryngau cymdeithasol. Isod ceir crynodeb o sefydliadau y gwnaethom gyfeirio atynt yn ein hymgyrch 16 Diwrnod o Weithredu, â rhagor o gynnwys manwl ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.  

Mae’r ymgyrchoedd hyn yn parhau i gynrychioli cyfleoedd i ddynion chware rôl weithredol a modelu ymddygiad cadarnhaol i fechgyn a dynion, ac er bod Rhuban Gwyn a’r 16 Diwrnod o Weithredu wedi dod i ben ar gyfer 2025, mae pob dydd yn gyfle i wrthwynebu trais yn erbyn menywod a merched, oherwydd bob tro y byddwn yn anwybyddu rhywbeth nad yw’n taro deuddeg, rydym yn colli cyfle i osod enghraifft well.  

 Gallwch ddysgu mwy am Rhuban Gwyn yma: White Ribbon UK (external website) 

Gallwch ddarllen y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder yma: Cynllun HTC 

Gallwch ddarllen y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Blant a Phobl Ifanc yma: Cynllun HTC i BPI

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais, mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth cenedlaethol a lleol. Ceir gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a sut i gysylltu â nhw yn y Cyfeiriadur Dioddefwyr yma: Cyfeiriadur Dioddefwyr

Ymgyrch Rhuban Gwyn 2025 - Cyfeiriadau

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Emma Wools gyda Swyddog Heddlu yn Merthyr Tudful

Manyleb Gwasanaeth – Asesiad o Anghenion Dioddefwyr De Cymru

Staff o Ymddiriedolaeth Nelson a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y tu allan i Ganolfan i Fenywod Pontypridd.

Ymweliad â Chanolfan i Fenywod Pontypridd

PCC Newsletter

Cylchlythyr CHTh – Rhagfyr 2025