Ein gweledigaeth yw sicrhau mai Heddlu De Cymru yw’r ‘gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau’. Rydym yn gwybod na ellir cyflawni hyn heb flaenoriaethu cydraddoldeb ac amrywiaeth a gweithio i gyflawni canlyniadau go iawn.

Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud bob amser er mwyn sicrhau y gall pawb yn Ne Cymru fyw yn rhydd rhag achosion o wahaniaethu, aflonyddu, anghydraddoldeb ac anfantais. Rydym yn gobeithio y bydd ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb yn sicrhau ein bod yn dod yn agosach at gyflawni ein gweledigaeth drwy adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd
‘ ‘Mae Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024-2027 y Comisiynydd ar waith a disgwylir iddi gael ei lansio yn ystod gwanwyn 2024. Bydd y ddogfen hon yn nodi ein cynlluniau i sicrhau y rhoddir sylw dyledus i gydraddoldeb ac y caiff cynnydd ei fonitro’n barhaus. Mae’r amcanion cydraddoldeb sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb hwn yn cynnwys y rhai hynny y gwnaethom eu dewis fel y prif feysydd y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw er mwyn cyflawni ein nodau o dan Ddyletswydd Gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010. Maent hefyd wedi cael eu nodi mewn ymgynghoriad â sefydliadau a gaiff eu cynrychioli.

Y Ddeddf Cydraddoldeb
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gweithio i sicrhau y caiff y rhai sy’n gweithio gyda ni neu Heddlu De Cymru, neu’r rhai sy’n rhyngweithio â ni neu Heddlu De Cymru, eu trin yn deg a gyda pharch ac nad ydynt yn destun gwahaniaethu yn sgil unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Oedran
  • Anabledd (gan gwynnys anableddau corfforol, meddyliol, synhwyraidd a dysgu)
  • Ailbennu Rhywedd
  • Priodas neu Bartneriaeth Sifil
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth
  • Hil (gan gynnwys hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig
  • Crefydd a Chred
  • Rhyw
  • Cyferiadedd Rhywiol

Wrth gyflawni’r rôl hon, rhaid i’r Comisiynydd a Heddlu De Cymru roi sylw i’r angen i wneud y canlynol:

  1. Dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir o dan y Ddeddf,
  2. Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu,,
  3. Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Cydraddoldeb a Chynhwysiant – Meysydd â Blaenoriaeth
Mae rhai o’r prif feysydd â blaenoriaeth mewn perthynas â chydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer y Comisiynydd a’i dîm yn cynnwys y canlynol:

  • Annog amrywiaeth yn Heddlu De Cymru
  • Annog rhoi gwybod am Droseddau Casineb a boddhad dioddefwyr
  • Monitro’r defnydd o stopio a chwilio a dweud wrth y cyhoedd am y weithred o stopio a chwilio
  • Annog y defnydd o Gynllun Cadw’n Ddiogel Cymru (ar gyfer pobl ag anghenion cyfathrebu penodol)
  • Rhyngweithio â’r cyhoedd

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru
Ar 8 Medi 2022, cyhoeddodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Mae’r cynllun yn amlinellu penderfyniad partneriaid ledled Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol ac ar y cyd, i ddileu unrhyw hiliaeth yn y System Cyfiawnder yng Nghymru.

“Deddf yr Iaith Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’r tîm yn gweithio i sicrhau y rhoddir statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg ym mhob maes gwaith ac maent yn croesawu gohebiaeth gan y cyhoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’r tîm yn llwyr ymrwymedig i godi proffil y Gymraeg ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn y meysydd canlynol:
Darparu Gwasanaethau
• Llunio polisïau
• Ffurfio polisïau newydd
• Gweithredol
• Dyrchafu
• Cadw cofnodion”