Mae aelodau o dîm y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cynnal ymarferion sicrhau ansawdd yn rheolaidd, yn amrywio o adolygu ffurflenni stopio a chwilio wedi’u cwblhau, gwylio ffilmiau o gamerâu fideo a wisgir ar y corff a monitro boddhad dioddefwyr.
Stopio a Chwilio:
Mae adolygiadau stopio a chwilio yn sicrhau bod modd craffu ar ffurflenni stopio a chwilio a gwblhawyd ym mhedwar rhanbarth yr heddlu, a hynny o bersbectif ‘person lleyg’. Caiff ffurflenni wedi’u cwblhau eu hystyried o safbwynt eu cywirdeb a’u cyfreithlondeb o ran defnyddio pwerau stopio a chwilio a’r rhesymau dros chwilio. Mae pob ymarfer hap-samplu hefyd yn sicrhau yr archwilir cyfran o ffurflenni sy’n gysylltiedig â phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gan gydnabod bod nifer anghymesur o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig cael eu stopio a’u chwilio, gall craffu o’r fath sicrhau bod pwerau yn cael eu defnyddio
mewn ffordd deg, a bod modd ymchwilio i achosion o gamddefnyddio pwerau a’u herio’n briodol.
Fideo a Wisgir ar y Corff:
Y prif bwyntiau a gaiff eu hystyried yn ystod yr ymarferion fideo a wisgir ar y corff hyn yw i ba raddau y caiff y protocol ‘GOWISELY’ ei ddilyn yn ystod pob chwiliad. Gweler protocol ‘GOWISELY’ isod:
• Grounds – Amlinellu’r sail i chwilio – rhoi esboniad clir o sail y swyddog dros ei amheuon
• Object – Nodi gwrthrych y chwiliad – esboniad clir o’r eitem/eitemau y mae’r swyddog yn chwilio amdani/amdanynt
• Warrant – Dangos y cerdyn gwarant (os nad yw’r swyddog yn gwisgo lifrai neu os bydd yr unigolyn yn gofyn amdano)
• Identity – Rhoi gwybodaeth adnabod y swyddog – enw a rhif y swyddog
• Station – Nodi’r orsaf y mae’r swyddog yn gweithio ynddi
• Entitlement – Esbonio hawliau’r unigolyn i gael copi o’r cofnod chwilio o fewn 3 mis
• Legal – Nodi’r pŵer cyfreithiol a ddefnyddir
• You – Esbonio i’r unigolyn ei fod yn cael ei ‘ddal at ddibenion chwiliad’
Yn ogystal â hyn, caiff cwrteisi a moesgarwch y swyddogion yn ystod pob chwiliad eu hystyried.
Arolygon Boddhad Dioddefwyr:
Ar ôl cael adroddiad cychwynnol o ddigwyddiad, caiff y mathau o droseddau eu cofnodi yn system rheoli’r heddlu. Mae’r Uned Ymchwilio i Alwadau Ffôn sydd wedi’i lleoli yn Heddlu De Cymru yn gyfrifol am gysylltu â dioddefwyr sydd wedi rhoi gwybod am ddigwyddiad i Heddlu De Cymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’u profiadau wrth gysylltu â’r heddlu i roi gwybod am ddigwyddiad.Mae’r arolwg boddhad dioddefwyr yn casglu adborth o bob cam o daith dioddefwr, sy’n amrywio o’r pwynt cyswllt cyntaf i’r camau gweithredu a gymerwyd a’r driniaeth gan swyddogion.
Troseddau Casineb:
Pan fyddwn yn adolygu arolygon boddhad dioddefwyr troseddau casineb, byddwn yn edrych ar y wybodaeth ansoddol a ddarperir gan ddioddefwyr troseddau casineb i Uned Ymchwilio i Alwadau Ffôn Heddlu De Cymru. Nod yr adolygiadau yw archwilio a deall profiadau dioddefwyr ar ôl iddynt roi gwybod am ddigwyddiad sy’n ymwneud â chasineb i Heddlu De Cymru er mwyn nodi arfer da ac unrhyw faterion sy’n destun pryder.