Ar gyfer pwy mae’r ymgyrch hon?
Ymgyrch ymyrryd yn gynnar yw #DdimYrUn sydd â’r nod o ddarbwyllo pobl ifanc 11-16 oed i beidio â chario cyllyll.
Gall heddluoedd, athrawon, gweithwyr ieuenctid, rhieni ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt ledled y DU ddefnyddio adnoddau ymgyrch #DdimYrUn i godi ymwybyddiaeth o beryglon troseddau â chyllyll a chefnogi ymgysylltiad cadarnhaol â phobl ifanc.
Beth mae’r ymgyrch yn ei gynnwys?
Arweinir yr ymgyrch hon gan Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru, gyda chymorth cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Mae’n seiliedig ar gyngor gan blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a gweithwyr ieuenctid yn Ne Cymru, a’u profiadau.
Drwy sgyrsiau gonest ac enghreifftiau o brofiadau go iawn, rydym yn gweithio i addysgu pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario cyllell.
Ydych chi’n rhiant, yn ofalwr, yn athro neu’n arweinydd grŵp ieuenctid sy’n chwilio am gyngor a chymorth? Gall adnoddau addysgu #DdimYrUn i athrawon, rhieni a gweithwyr ieuenctid helpu i ysgogi trafodaethau ac i fyfyrio yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
#DdimYrUn
Dysgwch fwy am ymgyrch #DdimYrUn ar ei gwefan
#DdimYrUn