Gwiriwch cyn prynu. Byddwch yn sicr cyn gyrru.
Gall beiciau trydan ac e-sgwteri edrych yn debyg i’w gilydd. Ond mae’r rheolau ynghylch yr hyn sy’n gyfreithlon, ble gellir eu defnyddio, a phwy sy’n gallu eu gyrru yn wahanol.
Os ydych chi’n ystyried prynu beic trydan neu e-sgwter i’ch hun neu i’ch plentyn, gwiriwch beth rydych chi’n ei brynu cyn gwario eich arian.
Er bod modd i chi brynu’r eitemau hyn, nid yw hynny’n golygu ei bod hi’n gyfreithlon eu defnyddio’n gyhoeddus.
Gwybod y gwahaniaeth
Beic trydan cyfreithlon
Mae’n rhaid i feic pedal a gynorthwyir yn drydanol (EAPC):
- feddu ar bedalau y gellir eu defnyddio i hwbio’r beic;
- meddu ar fodur â phŵer graddedig parhaus nad yw’n fwy na 250 wat;
- diffodd unrhyw gymorth trydanol unwaith y bydd y beic yn cyrraedd 15.5 mya.
Mae’n rhaid bod yn 14 oed neu’n hŷn er mwyn cael gyrru’r beiciau hyn ar ffyrdd cyhoeddus a llwybrau beicio.
Beiciau trydan sydd wedi’u haddasu neu nad ydynt yn cydymffurfio
Os oes beic trydan wedi cael ei addasu i’w wneud yn fwy pwerus neu i gynyddu ei gyflymder â chymorth trydanol, neu os nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer beiciau trydan, gellir ei ystyried yn gerbyd modur.
Mae’n bosibl y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol yn yr achos hwnnw, gan gynnwys gofynion o ran cofrestru’r cerbyd, ei drwyddedu, trefnu yswiriant ar ei gyfer, a defnyddio cyfarpar diogelu.
E-sgwteri sy’n eiddo preifat
Mae’n anghyfreithlon reidio e-sgwteri preifat mewn man cyhoeddus, gan gynnwys ar y ffyrdd, y palmant, lonydd beicio neu mewn parciau cyhoeddus.
Dim ond gyda chaniatâd y tirfeddiannwr y gellir eu defnyddio ar dir preifat.
Ddim yn siŵr beth rydych chi’n ei brynu?
Yn ôl y gyfraith, efallai mopeds neu feiciau modur yw rhai beiciau pweredig sy’n edrych yn debyg i feiciau trydan. Holwch ynglŷn â chategori’r cerbyd cyn ei brynu neu ei ddefnyddio.
Ydych chi’n prynu i blentyn? Ystyriwch y pum pwynt isod:
-
Beth yw e?
Nid yw beiciau sy’n cael eu gwerthu fel “beiciau trydan” bob amser yn rhai cyfreithlon. Ceisiwch fanylion am bŵer y modur, y cyflymder a gynorthwyir yn drydanol a’r pedalau, a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall ac yn gwybod beth rydych chi’n ei brynu.
-
Beth yw oedran y gyrrwr?
Mae’n rhaid bod yn 14 oed neu’n hŷn i ddefnyddio beic trydan cyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus a llwybrau beicio. Os ydych chi’n prynu i rywun o dan 14 oed, gwiriwch ble bydd hi’n bosibl defnyddio’r beic yn gyfreithlon cyn ei brynu.
-
Ble gellir ei ddefnyddio?
Yn gyffredinol, gellir defnyddio beic trydan cyfreithlon mewn mannau lle caniateir defnyddio beiciau pedal confensiynol, ac eithrio palmentydd. Ni ellir defnyddio e-sgwteri preifat mewn mannau cyhoeddus yn gyfreithlon.
-
Oes modd ei addasu?
Mae’n bosibl addasu rhai beiciau trydan i gynyddu eu cyflymder neu eu pŵer. Gall addasiadau o’r fath effeithio ar ba mor ddiogel yw’r beic ac a yw’n gyfreithlon ei ddefnyddio ar ffyrdd cyhoeddus. Eglurwch wrth eich plentyn fod rhaid cael caniatâd gennych cyn newid y beic mewn unrhyw ffordd.
-
Beth fydd y canlyniadau?
Yn dibynnu ar y cerbyd a’r amgylchiadau, os defnyddir cerbyd mewn modd anghyfreithlon, gall yr heddlu gymryd camau gweithredu, atafaelu’r cerbyd, ac efallai y bydd canlyniadau cyfreithiol eraill. Gall rhai troseddau effeithio ar bobl ifanc wrth iddynt wneud cais am drwydded yrru yn y dyfodol hefyd.
Edrychwch ar y rheolau cyn gwario eich arian ar feic trydan neu e-sgwter – a chyn i’ch plentyn ei ddefnyddio.
Pobl ifanc: Byddwch yn sicr cyn gyrru.
Cyn defnyddio beic trydan neu e-sgwter, ystyriwch y canlynol:
- O dan 14 oed? Chewch chi ddim gyrru beic trydan ar ffyrdd cyhoeddus na lonydd beicio.
- Wedi ei fenthyg gan rywun? Mae’n rhaid gwybod a yw’r cerbyd yn gyfreithlon a ble gellir ei ddefnyddio.
- Ydy’r beic wedi cael ei addasu i’w wneud yn gyflymach? Os oes rhywun wedi newid y cyflymder neu’r pŵer, efallai na fydd y beic yn gyfreithlon mwyach.
- Yn defnyddio e-sgwter? Mae’n anghyfreithlon defnyddio e-sgwter preifat ar ffyrdd, palmentydd, lonydd beicio neu mewn parciau cyhoeddus.
- Byddwch yn ymwybodol o’r canlyniadau. Gall yr heddlu atafaelu cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio’n anghyfreithlon, ac mae’n bosibl y bydd rhai troseddau yn effeithio ar eich trwydded yrru – hyd yn oed os nad oes gennych un eto.
Nid pob beic sy’n gyfreithlon. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pa fath o gerbyd rydych chi’n ei yrru, a gwiriwch y rheolau cyn mynd ati i wneud hynny.
Wedi ei fenthyg? Chi sy’n gyfrifol o hyd.
Byddwch yn sicr cyn gyrru.
Batris a diogelwch wrth wefru
Gall batris mewn beiciau trydan ac e-sgwteri achosi tanau difrifol os ydynt wedi cael eu difrodi neu os ydynt yn rhai anghydnaws, o ansawdd gwael neu’n cael eu defnyddio’n anghywir.
- Prynwch gan fân-werthwyr ag enw da, a defnyddiwch y batris a’r gwefrwyr cywir.
- Peidiwch byth â defnyddio batris na chyfarpar gwefru sydd wedi cael eu difrodi.
- Cyfeiriwch at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a pheidiwch â gwefru beiciau trydan ac e-sgwteri os oes posibilrwydd y gallai tân rwystro’r allanfa.
Am ragor o gyngor, darllenwch y canllawiau swyddogol ar ddiogelwch batris isod.
Rhagor o wybodaeth
Defnyddiwch ganllawiau swyddogol a dibynadwy i wirio’r rheolau cyn prynu neu ddefnyddio beiciau trydan ac e-sgwteri:
- UK – Reidio e-feic: y rheolau
- UK – Reidio e-sgwter: y rheolau
- Heddlu De Cymru – E-sgwteri ac e-feiciau
- UK – Prynwch yn Ddiogel, Byddwch yn Ddiogel: Osgoi tân a achosir gan e-feiciau ac e-sgwteri