Y Comisiynydd yn lansio arolwg Plant a Phobl Ifanc

Mae Emma Wools, eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi agor ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc er mwyn helpu i greu Cynllun yr Heddlu a Throseddu cyntaf De Cymru i Blant a Phobl Ifanc. Bydd y cynllun hwn yn gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yn Ne Cymru, gyda phwyslais ar ddatblygu atebion sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc.

Caiff y blaenoriaethau yn y cynllun eu llunio gan ddefnyddio adborth uniongyrchol gan blant a phobl ifanc De Cymru.  Bydd hyn yn helpu sicrhau bod plismona yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn croesawu ymatebion gan unrhyw un dan 25 oed sy’n byw a/neu’n astudio yn Ne Cymru, yn uniongyrchol neu fel rhan o ymatebion grŵp wedi’u hwyluso gan y rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Dywed Emma: “Rwy’n angerddol dros sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled De Cymru yn cymryd rhan i helpu i lywio dyfodol Cynllun Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i Blant a Phobl Ifanc. Rydym am sicrhau bod eich safbwyntiau, eich profiadau a’ch lleisiau wrth wraidd y broses hon.

Dyma eich cyfle i lywio eich dyfodol! Mae cymryd rhan ac ymgysylltu â’n cynlluniau yn sicrhau bod eich lleisiau yn llywio dyfodol eich cymunedau a’r ffordd y byddaf  i, fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn gweithio er eich budd pennaf. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i chi bennu’r blaenoriaethau ar gyfer plismona, ac mae’n eich galluogi i gymryd rheolaeth i sicrhau ein bod yn darparu ar eich cyfer. Cymerwch ran a rhannwch eich barn i sicrhau bod Cynllun Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i Blant a Phobl Ifanc yn adlewyrchu’r hyn rydych am iddo fod!”

Bydd yr ymgynghoriad  ar agor tan Dydd Gwener 3 Ionawr 2025

Arolwg | Pecyn Hwyluswyr

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Emma Wools gyda Swyddog Heddlu yn Merthyr Tudful

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein #SgwrsLleisiauIfanc

Aelodau o'r tîm sy'n derbyn gwobr Go Awards Wales.

Llwyddiant Gwobr Menter Gaffael Gydweithredol yng Ngwobrau Go Wales

Member of team at LGBTQ+ event

LGBTQ + Hanes Mis Siop Wybodaeth Un Stop