
Menter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, wedi lansio Menter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf – rhaglen o gamau gorfodi a gweithgareddau partneriaeth penodol wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau manwerthu a thrais ar y strydoedd mewn 10 ardal canol y dref lle ceir problemau mynych yn Ne Cymru dros fisoedd yr haf.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi ysgrifennu at bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gofyn iddynt arwain cynlluniau cyflawni lleol i gefnogi uchelgais Strydoedd Mwy Diogel y Llywodraeth yn ystod misoedd prysur yr haf. Yn Ne Cymru, mae’r Comisiynydd wedi llunio cynllun cyflawni ar ran partneriaid lleol sy’n gydnaws â Chynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder 2025-2029, sy’n adlewyrchu ei chred y dylid gweithredu mewn ffordd sy’n seiliedig ar le ac o dan arweiniad partneriaethau er mwyn creu ardaloedd canol tref mwy diogel.
Gyda chymorth Cronfa Hotspot Action y Swyddfa Gartref, mae’r Comisiynydd wedi gweithio gyda’r Uned Atal a Lleihau Trais, timau heddlu lleol a phartneriaid i ddatblygu ymyriadau wedi’u targedu. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu uchelgais y Comisiynydd i weithio gyda busnesau, awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol i leihau troseddau manwerthu a sicrhau bod ardaloedd canol tref yn fwy diogel i bawb.
Dywedodd y Comisiynydd:
“Mae gan y cyhoedd yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eu cymunedau ac yng nghanol ein trefi yn ystod cyfnod prysur yr haf. Nod Menter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf yw dod â phartneriaid ynghyd – nid dim ond dibynnu ar yr awdurdodau gorfodi – er mwyn mynd i’r afael â materion parhaus sy’n niweidio ein cymunedau ac yn lleihau hyder. Hoffwn ddiolch i’r timau heddlu lleol, yr awdurdodau lleol, y partneriaid diogelwch cymunedol, y gymuned fusnes, ac yn arbennig yr Ardaloedd Gwella Busnes, am gydweithio i sicrhau y gallwn gyflawni canlyniadau go iawn.”
Mae Menter Strydoedd Mwy Diogel yr Haf yn seiliedig ar ddatrys problemau lleol, ac mae cyllid yn cefnogi mentrau sy’n cynnwys y canlynol:
- Patrolau allgymorth ac ymyrryd yn gynnar estynedig i bobl ifanc
- Mesurau i bennu targedau mwy llym mewn lleoliadau a nodwyd fel mannau problemus
- Gwaith penodol i ymgysylltu â busnesau ac atal troseddau
- Presenoldeb gweledol swyddogion yr heddlu ac asiantaethau partner mewn lifrau
Yn 2024/25, cyflawnodd cyllid drwy’r Gronfa Hotspot Action ganlyniadau mesuradwy ledled De Cymru, gan gynnwys gostyngiad o 15% mewn trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gostyngiad o 19% mewn niwed yn y mannau problemus a dargedwyd.
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Rydym yn gwybod bod y dull hwn yn gweithio. Eleni, rydym yn parhau â’n buddsoddiad i wella gwelededd yr heddlu, ond rydym hefyd yn cefnogi datrysiadau o dan arweiniad partneriaethau sy’n gwella hyder, yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu, ac yn cefnogi ein busnesau lleol.”
Yn ystod yr haf, bydd y Comisiynydd yn ymweld â mannau problemus a chanol trefi i gwrdd â phartneriaid, siarad â phreswylwyr a busnesau, a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y gwaith hwn a chyfleoedd pellach i ymgysylltu â chymunedau
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Digwyddiad Ymgysylltu â’r Farchnad

Gwobrau GO!
