Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus i’w helpu i lunio ei Chynllun cyntaf ar gyfer yr Heddlu a Throseddu.
Fel swyddog etholedig, mae dyletswydd arni fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i wrando ar bryderon y cyhoedd, i osod blaenoriaethau plismona lleol, ac i ddatblygu cynllun heddlu a throseddu i gefnogi’r heddlu i ddarparu’r gwasanaeth cyhoeddus gorau posibl.
Caiff blaenoriaethau plismona’r cynllun eu dylunio gan ddefnyddio adborth uniongyrchol gan aelodau o’r cyhoedd yn Ne Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod plismona’n adlewyrchu anghenion a safbwyntiau pobl leol, dioddefwyr, a chymunedau lleol.
“Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae gwrando ar y cyhoedd yn rhan allweddol o fy rôl a gallaf gynrychioli eich safbwyntiau a’ch pryderon, a dwyn yr heddlu i gyfrif.“
“Wrth agor yr ymgynghoriad hwn, gallaf ddod i ddeall safbwyntiau a phrofiadau pobl yn well, sy’n hanfodol er mwyn llunio cynllun a fydd yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’r cyhoedd yn Ne Cymru. Bydd eich lleisiau yn helpu i lunio’r cymunedau rydych yn byw ynddynt.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 5 Awst a 4 Hydref.
Peidiwch â cholli eich cyfle i leisio’ch barn, hefyd: https://lynngroup.qualtrics.com/jfe/form/SV_bKG0t9dhk1inBJA
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion