Mae eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd sydd newydd ei ethol, Emma Wools, yn gyfrifol am gynrychioli llais y cyhoedd a dwyn Heddlu De Cymru i gyfrif. Un o gyfrifoldebau cyntaf Emma yw cyhoeddi Cynllun Heddlu a Throsedd cynhwysfawr, sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol.
Er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu Emma yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau pobl leol, dioddefwyr a chymunedau yn Ne Cymru, mae wrthi’n chwilio am adborth ehangach i brofi ei blaenoriaethau fel rhan o ddatblygu’r Cynllun. Mae Emma wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a thegwch ar draws plismona a chyfiawnder troseddol, a deall a mynd i’r afael ag anghenion pob cymuned. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen eich help chi arni i estyn allan at y bobl a’r cymunedau rydych chi’n eu cefnogi i sicrhau bod cyfranogiad mor amrywiol â phosibl a’i bod yn clywed gan y rhai sy’n aml yn cael eu gwthio i’r cyrion.
Ar gyfer beth y gellir defnyddio’r grant? Gellir defnyddio grantiau hyd at £500 i dalu costau sy’n gysylltiedig â hwyluso sesiynau adborth, megis amser staff, llogi lleoliadau, gweithgareddau, a bwyd/lluniaeth.
Sut allwch chi ymgeisio? Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth drwy anfon e-bost i- sophie.rees2@south-wales.police.uk.
Nodwch mai’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau grant yw dydd Llun 30 Medi.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion