Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder De Cymru (2025-29), Blaenoriaeth 3: Diogelu Pobl a Chymunedau Sy’n Agored i Niwed, gan gynnwys Ar-lein.
Law yn Llaw at Dde Cymru Diogel, Cyfiawn a Chynhwysol.
Diffiniadau
- Defnydd mynych a bwriadol o’r rhyngrwyd a dulliau cyfathrebu electronig eraill i gyfathrebu mewn modd parhaus a dieisiau gyda’r bwriad o ddychryn rhywun, ei fygwth neu aflonyddu arno yw seiberstelcio.
- Cam-drin y gellir ond ei gyflawni drwy ddefnyddio technoleg ddigidol e.e. hacio, ysbïwedd yw cam-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber.
- Cam-drin ‘traddodiadol’ ydyw sy’n cael ei hwyluso gan ddulliau seiber e.e. seiberstelcio, neu dwyll ar-lein fel swyno drwy dwyll.
Gallwch ddysgu mwy am derminoleg sy’n berthnasol i Drais yn Erbyn Menywod a Merched a Diogelu drwy ein Rhestr Termau.
Rhestr TermauLlwyddodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i gael ychydig o gyllid ychwanegol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ddiweddar. Aeth rhywfaint o’r cyllid hwn tuag at gomisiynu The Cyber Helpline i ddarparu hyfforddiant i rai o staff rheng flaen De Cymru sy’n gweithio i gefnogi dioddefwyr-goroeswyr Trais yn Erbyn Menywod a Merched, gan gynnwys Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVAs) a Gweithwyr Achos Eiriolaeth Stelcio Annibynnol (ISACs). Gwnaethom groesawu 30 o unigolion o sefydliadau gwahanol i gael hyfforddiant arbenigol a phwrpasol ar gefnogi dioddefwyr-goroeswyr achosion o seiberstelcio a cham-drin a hwylusir gan dechnoleg.
Yn ystod y sesiwn hyfforddiant ddiddorol hon, roedd y rhai a oedd yn bresennol yn gallu dysgu a gofyn am fathau gwahanol o gam-drin a hwylusir gan ddulliau seiber a cham-drin seiber-ddibynnol, sut y gall gweithwyr proffesiynol roi cymorth i ddioddefwyr-goroeswyr, sut y gallwn ddiogelu ein hunain ar-lein, ac am Gynllun Gweithredu The Cyber Helpline ar gyfer Seiberstelcio.
Mae The Cyber Helpline yn rhoi cymorth arbenigol i weithwyr proffesiynol fel IDVAs ac ISACs yn ogystal â swyddogion yr heddlu a dioddefwyr seiberdroseddau, twyll digidol a niwed ar-lein ledled y DU. Mae’n gweithredu drwy ddarparu llinell gymorth a sgwrsfot cyfrinachol am ddim, cyhoeddi canllawiau manwl a hyrwyddo gwaith amlasiantaethol. Gallwch gael gafael ar The Cyber Helpline drwy glicio ar y botwm isod neu drwy ddilyn y ddolen ar waelod yr erthygl hon.
“Nod y sesiwn hon oedd codi ymwybyddiaeth o seiberstelcio ac achosion o gam-drin a hwylusir gan dechnoleg, a chefnogi ymatebion gwybodus i’r mathau hyn o niwed sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr-goroeswyr. Wrth i’r angen am ddealltwriaeth well o’r niweidiau hyn barhau i dyfu, rydym yn ddiolchgar i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru am ein gwahodd i ddarparu’r hyfforddiant hwn. Roedd yn fraint darparu ein hyfforddiant i’r timau IDVA, ISAC a phlismona.” – The Cyber Helpline
The Cyber Helpline (Allanol)“Mae seiberstelcio yn treiddio pob rhan o fywyd person, yn aml yn gwneud i ddioddefwyr deimlo’n ynysig ac yn anniogel. Drwy ddod â Heddlu De Cymru a gwasanaethau cymorth ynghyd ledled ein rhanbarth, gallwn sicrhau ein bod yn amddifyn dioddefwr mewn fordd fwy effeithiol a dwyn cyflawnwyr i gyfrif.” – Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools
Prosiect AthenaGyda chymorth gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, lansiodd Heddlu De Cymru Brosiect Athena ym mis Chwefror 2026. Dogfen gymorth hawdd ei deall yw Prosiect Athena. Fe’i datblygwyd gan Heddlu De Cymru ac mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr Seiberstelcio ac Aflonyddu a darparu canllawiau trylwyr i ddioddefwyr, gweithwyr proffesiynol a’r Heddlu ar yr un pwnc. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys camau manwl y gall unigolion eu cymryd i ddiogelu eu hunain ar-lein ac wrth ddefnyddio technoleg/rhaglenni ar-lein. Mae’n cwmpasu troseddau a cham-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber ac sy’n cael eu hwyluso gan ddulliau seiber, ac mae wedi’i drefnu fesul categori e.e., y cyfryngau cymdeithasol, ffonau symudol a thechnoleg cartref clyfar. Gallwch gael gafael ar canllawiau drwy glicio ar y botwm uchod neu drwy ddilyn y ddolen ar waelod yr erthygl hon.
Gallwch ddarllen Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu Prosiect Athena yma: Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu – Comisiynyddd yr Heddlu a Throseddau
Gallwch dysgy mwy am The Cyber Helpline a’i Gynllun Gweithredu ar gyfer Seiberstelcio yma: Cyberstalking Action Plan — The Cyber Helpline
Gallwch ddarllen y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder yma: Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder 2025-29 – Comisiynyddd yr Heddlu a Throseddau
Gallwch ddarllen y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Blant a Phobl Ifanc yma: Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Blant a Phobl Ifanc De Cymru – Comisiynyddd yr Heddlu a Throseddau
Cyfeiriadur Dioddefwyr
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais, mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth cenedlaethol a lleol. Ceir gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a sut i gysylltu â nhw yn y Cyfeiriadur Dioddefwyr.
Cyfeiriadur DioddefwyrY Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Y Comisiynydd yn sicrhau cyllid newydd i wella diogelwch a chefnogaeth mewn cymunedau.
Lansio Cynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar y Cyd De Cymru