Heddlu De Cymru yn agor ei ddrysau ar gyfer diwrnod llawn hwyl

Llun o Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Emma Wools a prif gwnstabl gyda Dewi y Ddraig

Ddydd Sadwrn 29 Mehefin, agorodd Pencadlys Heddlu De Cymru ei ddrysau i’r cyhoedd ar gyfer diwrnod llawn hwyl, lle gallai pobl o bob oedran fynd y tu ׅôl i’r llen yn adrannau’r Heddlu a dysgu mwy am y gwahanol rolau ym maes plismona.

Roedd y diwrnod i deuluoedd yn cynnwys amrywiaeth o atyniadau, gweithgareddau, teithiau tywys, ac arddangosiadau i apelio i bob oedran.

Roedd gan aelodau o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu lawer i’w gynnig ar eu stondin, yn amrywio o eitemau diogelwch personol, gweithgareddau plant a’u ‘blychau tocynnau tŷ’ i gasglu adborth am ‘beth sydd o bwys i chi’.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools “Mae digwyddiadau plismona fel hyn i deuluoedd yn hynod bwysig ar gyfer helpu i feithrin cydberthnasau rhwng trigolion a’r tîm plismona lleol. Mae cael y cyfle i arddangos yr holl rolau a swyddogaethau yn galluogi Heddlu De Cymru i roi gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r heddlu yn defnyddio technoleg, cyfarpar a cherbydau i gyflawni eu dyletswyddau. Roedd yn bleser gweld mwy na 5,000 o ymwelwyr yn bresennol yn y digwyddiad a’r diddordeb a ddangoswyd gan bobl yn yr amrywiaeth o stondinau drwy gydol y dydd. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i siarad â mi yn bersonol a’r rhai a rannodd eu hadborth â fy nhîm.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
PCC with Foundation 4 Sport Cardiff staff members

Creu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc ledled Caerdydd

Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Cadw Cymunedau’n Ddiogel: Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd

Emma Wools at Cardiff City Football Club Community Foundation

Buddsoddi £125,000 i Ehangu’r Rhaglen “Premier League Kicks” i Gefnogi Pobl Ifanc Ledled De Cymru