Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn cyhoeddi cynnydd o 7.37% i’r Praesept

“Er mwyn sicrhau De Cymru ddiogel a theg, mae angen i ni fuddsoddi nawr i wella canlyniadau ar gyfer y dyfodol.”

PCC Emma Wools
Dau heddwas yn siarad ag aelod o'r cyhoedd

Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn cyhoeddi cynnydd o 7.37% i’r Praesept er mwyn sicrhau y caiff blaenoriaethau’r cyhoedd eu cyflawni yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Emma Wools wedi cyhoeddi cynnydd o 7.37% ym Mhraesept De Cymru er mwyn parhau i gyflawni’r blaenoriaethau y mae pobl De Cymru angen i’r Heddlu eu cyflawni, ac y mae disgwyl iddo.

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr, llwyddodd yr adborth a gafwyd gan y cyhoedd i helpu i llunio camau cyntaf Cynllun yr Heddlu a Throseddu y Comisiynydd, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, yn ogystal â llywio ffocws y blaenoriaethau ar gyfer y Comisiynydd a helpu i bennu cynnydd y Praesept ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd y Comisiynydd, Emma Wools:

“Ers i mi gael fy ethol fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rwyf wedi blaenoriaethu’r gwaith o ymgysylltu’n eang â phobl De Cymru er mwyn deall eu pryderon a sut rydym ni fel yr Heddlu yn sicrhau De Cymru ddiogel, teg a chynhwysol fel y gwnaethant bleidleisio amdani yn ôl ym mis Mai.”

“Er mwyn cyflawni’r weledigaeth honno, gwasanaethu pobl De Cymru yn effeithiol a sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel, rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd o gyhoeddi cynnydd sy’n gyfwerth â £1.45 hyd at £2.17 y mis i’r Praesept ar gyfer y mwyafrif o gartrefi. Bydd hyn yn sicrhau bod gan wasanaeth yr heddlu yr adnoddau angenrheidiol i gadw ein cymunedau’n ddiogel.” 

“Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu Llafur Cymru, rwy’n gwbl ymwybodol o’r pwysau ariannol y mae aelwydydd ledled De Cymru yn eu hwynebu. Rwyf wedi ymweld ac ymgysylltu â chymunedau ar hyd a lled ardal yr heddlu ac wedi gwrando ar eu pryderon ac mae hyn wedi arwain at gyhoeddi un o’r isaf o ran cynnydd i’r Praesept yng Nghymru.” 

“Er gwaethaf y sefyllfa economaidd anodd a pharhaus rydym yn ei hwynebu, gyda chynnydd mewn chwyddiant, cyflog yr heddlu a chostau eraill, mae’r cynnydd hwn i’r Praesept yn sicrhau y gallwn amddiffyn plismona yn y gymdogaeth, mynd i’r afael â throseddau treisgar, blaenoriaethu dulliau atal troseddau, parhau i gynnig cymorth hollbwysig i ddioddefwyr a buddsoddi mewn technoleg i fynd i’r afael â mathau newydd o droseddau.”

Yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus i Banel yr Heddlu a Throseddu, cytunwyd ar gynnydd o £26 y flwyddyn. Bydd cynnydd o 7.37% yn y Praesept, sy’n golygu’r canlynol i bob aelwyd:

  • Cynnydd o £2.17 y mis ar gyfer eiddo Band D
  • Cynnydd o £1.92 y mis ar gyfer Band C
  • Cynnydd o £1.69 y mis ar gyfer Band B
  • Cynnydd o £1.45 y mis ar gyfer Band A

I gloi, dywedodd Emma Wools:

“Mae pobl De Cymru yn ymwybodol bod dros ddegawd o ddiffyg cyllid digonol wedi golygu bod angen buddsoddi’n ddirfawr yn ein gwasanaethau cyhoeddus a dyna pam rwyf wedi awgrymu cynnydd i’r Praesept – er mwyn buddsoddi yn ein Heddlu, blaenoriaethu pryderon allweddol y cyhoedd a darparu’r lefel o wasanaeth y mae trethdalwyr De Cymru ei heisiau ac yn ei disgwyl.”

“Ni fydd yn bosibl i ni droi’r dudalen ar gynni ac ymdrin â’r canlyniadau dros nos, ond mae pob un ohonom yn gwybod ac yn cydnabod bod angen i ni fuddsoddi nawr i wella canlyniadau i’r dyfodol er mwyn sicrhau De Cymru ddiogel a theg.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Emma Wools gyda Swyddog Heddlu yn Merthyr Tudful

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein #SgwrsLleisiauIfanc

Aelodau o'r tîm sy'n derbyn gwobr Go Awards Wales.

Llwyddiant Gwobr Menter Gaffael Gydweithredol yng Ngwobrau Go Wales

Member of team at LGBTQ+ event

LGBTQ + Hanes Mis Siop Wybodaeth Un Stop