Dathlu Timau Atal Trais y GIG sy’n cael eu hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Dathlu Timau Atal Trais y GIG sy'n cael eu hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Dathlu Timau Atal Trais y GIG sy’n cael eu hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Mae Timau Atal Trais y GIG, sydd wedi eu hariannu gan Grant Lleihau Trais y Comisiynydd, yn ddau dîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig sy’n diogelu cleifion Adrannau Achosion Brys yn Abertawe a Chaerdydd, cyn ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r Adrannau Achosion Brys.

Mae Timau Atal Trais yn cynnwys Nyrsys Atal Trais sy’n darparu cymorth i gleifion o bob oedran sy’n mynd i Adrannau Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Treforys ag anafiadau oherwydd trais, a gweithwyr ieuenctid cymunedol y trydydd sector sy’n cael atgyfeiriadau gan y nyrsys. Mae’r timau yn diogelu’r holl gleifion sydd wedi cael atgyfeiriad atynt ac yn atgyfeirio allan i’r holl asiantaethau perthnasol i nodi’r math gorau o gymorth sydd ei angen ar bob claf.

Mae’r timau ymroddedig hefyd yn cynorthwyo i sefydlu cymorth amlasiantaethol ar gyfer cleifion Adrannau Achosion Brys i wella ansawdd y gofal, y cymorth a’r arweiniad a gânt gan weithwyr proffesiynol, yn creu llwybrau atgyfeirio clir ac yn addysgu staff Adrannau Achosion Brys i fod yn ymwybodol o’r bygythiadau yn ymwneud ag anafiadau sy’n gysylltiedig â chyllyll a sut i ddiogelu eu hunain, a’u cleifion hefyd.

Yn ddiweddar, ar ôl cael ei enwebu gan Bennaeth Uned Atal Trais y Comisiynydd, mae’r prosiect wedi ennill gwobr y categori Diogelu, sy’n amlygu cyfraniad eithriadol y prosiect at gymorth amlasiantaethol ledled De Cymru.

Llongyfarchiadau!

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Member of team at LGBTQ+ event

LGBTQ + Hanes Mis Siop Wybodaeth Un Stop

Dau heddwas yn siarad ag aelod o'r cyhoedd

Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn cyhoeddi cynnydd o 7.37% i’r Praesept

Dathlu rhaglen ‘Braver Choices’ sy'n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Dathlu rhaglen ‘Braver Choices’ sy’n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!