Dathlu rhaglen ‘Braver Choices’ sy’n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Dathlu rhaglen ‘Braver Choices’ sy'n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Dathlu rhaglen ‘Braver Choices’ sy'n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Mae Braver Choices, sy’n cael ei hariannu gan Grant Lleihau Trais y Comisiynydd, yn rhaglen atal troseddau’n ymwneud â chyllyll gan Media Academy Cymruar gyfer bobl ifanc De Cymru sydd ar ymylon troseddau’n ymwneud â chyllyll, neu sydd eisoes yn rhan o droseddau’n ymwneud â chyllyll a chario arfau.

Nod rhaglen Braver Choices yw addysgu pobl ifanc am y risg o gario arfau gan gynnwys y posibilrwydd o gael dedfryd, camfanteisio a chyd-fenter ac i ystyried canlyniadau. Rhaglen ymyrryd 12 wythnos o hyd ydyw sy’n benodol ar gyfer plant 8-18 oed a ddarperir ar sail 1:1, mewn amgylchedd diogel a chyfforddus.

Mae’r rhaglen ymyrryd hon yn cyfuno nifer o ddulliau a gaiff eu cydnabod fel ymyriadau effaith uchel yn y YEF Toolkit yn hytrach na chymryd un prif ddull: gan gynnwys rhaglenni atal â ffocws, dargyfeiriad cyn achosion llys a rhaglenni sgiliau cymdeithasol.

Yn ddiweddar, ar ôl cael ei enwebu gan Bennaeth Uned Atal Trais y Comisiynydd, enillodd y prosiect wobr y categori Trais Difrifol, gan amlygu cyfraniad eithriadol y rhaglen at addysgu pobl ifanc risg uchel ledled De Cymru.

Llongyfarchiadau!

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Member of team at LGBTQ+ event

LGBTQ + Hanes Mis Siop Wybodaeth Un Stop

Dau heddwas yn siarad ag aelod o'r cyhoedd

Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn cyhoeddi cynnydd o 7.37% i’r Praesept

PCC funded NHS Violence Prevention Teams celebrated at the Safer Communities Awards 2024!

Dathlu Timau Atal Trais y GIG sy’n cael eu hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!