Yn dilyn y digwyddiadau trasig yn Southport a’r digwyddiadau dilynol o anhrefn treisgar, hiliaeth ac islamoffobia ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, hoffwn roi sicrwydd i’r cyhoedd bod mesurau cynhwysfawr wedi cael eu rhoi ar waith i amddiffyn ein cymunedau. Mae ein heddlu yn gweithio’n ddiflino i fonitro a sicrhau diogelwch pob preswylydd a all fod yn wynebu bygythiadau posibl, ac ymateb iddynt. Rydym yn ymrwymedig i gynnal heddwch, trefn, a llesiant ein cymunedau amrywiol. Eich diogelwch chi yw ein prif flaenoriaeth.
Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â’r Prif Gwnstabl, Jeremy Vaughan, a’i dîm, yn monitro’r datblygiadau. Rwy’n hyderus bod Heddlu De Cymru yn barod am unrhyw anhrefn posibl, ac y byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’n cadw’n ddiogel. Mae ganddynt fy nghefnogaeth lawn ar hyn o bryd. Mae Heddlu De Cymru wrthi’n cymryd camau, yn cynnwys sicrhau presenoldeb uwch o swyddogion yr heddlu, monitro a chasglu cudd-wybodaeth, sicrhau diogelwch y cyhoedd, ac yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i ymdrin â phryderon ynglŷn â’r digwyddiadau diweddar.
Rwy’n ymwybodol o’r gwir bryderon a’r gofid yng nghymunedau De Cymru, sy’n ymfalchïo yn eu hamrywiaeth, ond a all deimlo o dan fygythiad ar hyn o bryd. Rwyf wir yn deall y pryderon hyn, ac rydym yn gweithio’n agos gydag arweinwyr a rhanddeiliaid cymunedau, gan gynnwys y rheini o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd Ethnig ledled De Cymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â nhw. Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu yn ein cymunedau, ac rwy’n condemnio unrhyw achos o wahaniaethu, anoddefgarwch neu gasineb, gan gynnwys achosion o hynny ar-lein. Rwy’n ymrwymedig i hybu amrywiaeth, cynhwysiant ac uniondeb, a byddaf yn gweithio’n ddiflino gyda’r Heddlu, gyda phartneriaid a chyhoedd De Cymru i sicrhau diogelwch a llesiant pawb.
Byddwn yn annog unrhyw un sy’n dyst i achos o drosedd casineb neu unrhyw weithgarwch troseddol arall gan gynnwys troseddau ar-lein, neu os bydd gennych bryderon amdanynt, i ffonio 999 neu 101 ar unwaith, neu roi gwybod amdano i Publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion