Comisiynydd yn eich gwahodd i ddweud eich dweud ar gyllid yr heddlu yn Ne Cymru

Mae eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Emma Wools yn gyfrifol am osod y gyllideb ar gyfer Heddlu De Cymru, sy’n cynnwys y swm y mae trigolion yn ei gyfrannu tuag at blismona fel rhan o’u Treth Cyngor.

Yn dilyn proses ymgynghori helaeth a gynhaliwyd gennym dros yr haf, dywedodd mwy na 5,000 o bobl wrthym ba feysydd gwasanaeth yr oeddent yn teimlo y dylai’r Comisiynydd fod yn blaenoriaethu.

Dywedodd Emma: “Mae’r adborth rydych chi wedi’i rannu â mi yn datgelu awydd cyffredin am heddlu mwy integredig a gweladwy, sydd â’r gallu i fuddsoddi mewn technoleg i ymateb i fathau newydd a datblygol o droseddau.”

“Mae preswylwyr wedi tynnu sylw at sawl maes allweddol y maen nhw am i mi eu blaenoriaethu, sy’n cynnwys buddsoddi mewn ymyriadau i fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol, bod yn ddi-baid wrth fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a merched a gwella’r gefnogaeth i ddioddefwyr drwy gydol eu taith drwy’r system cyfiawnder troseddol.”

“Mae hefyd yn amlwg o’r adborth a gefais fod pwyslais cymunedol cryf ar flaenoriaethu strategaethau sy’n atal troseddu cyn iddo ddigwydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar fesurau adweithiol yn unig.”

“Mae’r adborth hanfodol hwn wedi rhoi eglurder i ni o ran pwrpas, gan sicrhau mai eich blaenoriaethau chi yw fy mlaenoriaethau i. Er mwyn cyflawni gydag effaith, bydd angen buddsoddiad ar y blaenoriaethau hyn, ac mae angen i mi ystyried yn ofalus sut i ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael yn y ffordd orau a’r cyllid ychwanegol y mae angen i ni ei godi i sicrhau y gallwn barhau i fuddsoddi yn eich plismona lleol, sicrhau canlyniadau rhagweithiol mewn atal troseddau a chryfhau’r cymorth a ddarperir i ddioddefwyr.”

Cyn bod angen gwneud penderfyniad ar y gyllideb ym mis Ionawr 2025, mae’r Comisiynydd yn annog pobl sy’n byw yn Ne Cymru i rannu eu barn ar faint maen nhw’n barod i’w dalu tuag at blismona lleol yn Ne Cymru, drwy eu treth gyngor yn y flwyddyn sydd i ddod.

Mae’r arolwg ar agor am 5 wythnos, gan ddod i ben ddydd Llun 30 Rhagfyr 2024.

Caniatewch ychydig funudau i ddweud eich dweud. Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg drwy’r dolenni canlynol:

Arolwg Cymraeg

Arolwg Saesneg 

Os hoffech gael copi papur o’r arolwg, neu ofyn am fersiwn hygyrch neu iaith wahanol, cysylltwch â’n tîm:

01656 869366 | engagement@south-wales.police.uk | Tŷ Morgannwg, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion

Y Comisiynydd yn lansio arolwg Plant a Phobl Ifanc

Picture of Police and Crime Commissioner, Emma Wools with members of Chai and Chat and the NPT BME Association

Ar grwydr yn eich cymuned

Beth Yw Eich Barn?

Lansio Ymgynghoriad Ar Gynllun Yr Heddlu A Throseddu