Cynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar y Cyd De Cymru ar Dudalen
Gallwch ddarllen y Cynllun ar Dudalen wrth clicio isod
Cynllun ar TudalenMae VAWG/VAWDASV yn cynnwys ystod eang o ymddygiadau gan gynnwys cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcio, anffurfio organau cenhedlu benywod, masnachu mewn pobl, a thrais ar sail “anrhydedd”. Y gwir amdani yw bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig na dynion, sy’n wahanol i bob math arall o droseddau treisgar lle mae dynion yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr. Yn 2024-25, roedd troseddau’n ymwneud â VAWG yn cyfrif am 26.4% o’r holl droseddau yn Ne Cymru. Roedd stelcio ac aflonyddu’n cyfrif am ychydig dros draean o’r troseddau hyn (34.2%), ac roedd troseddau rhywiol (gan gynnwys treisio, troseddau rhywiol difrifol a throseddau rhywiol eraill) yn cyfrif am 11.4%.
Ar y cyd â phartneriaid ledled De Cymru, rydym wedi datblygu Cynllun VAWDASV ar y Cyd sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd ar y cyd â Llywodraeth Leol a Llywodraeth Genedlaethol, Cyrff Anllywodraethol, Gwasanaethau Arbenigol, Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol, Sefydliadau Iechyd ac Addysgol i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr pob math o VAWDASV, yn unol â’r addewid yng Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder De Cymru 2025-29, Blaenoriaeth 3: Diogelu Pobl a Chymunedau Agored i Niwed, Gan gynnwys Ar-lein i gadw pobl a chymunedau sy’n agored i niwed yn ddiogel rhag camfanteisio a niwed.
Rhennir y Cynllun yn bedair adran, sef y ‘Pedwar P’:
- Paratoi: Paratoi timau plismona a phartneriaid i ymateb yn effeithiol i VAWG a’i leihau. Sicrhau bod timau plismona yn meddu ar y galluoedd, y capasiti a’r diwylliant cywir (gwybodaeth, sgiliau, cymorth a mewnwelediad) i ymdrin â VAWG.
- Diogelwch (Protect): Diogelu a chefnogi dioddefwyr a chymunedau rhag pob math o VAWG.
- Ymlid (Pursue): Deall sbardunau cyflawni troseddau yn well ac ymateb yn briodol drwy ddull system gyfan.
- Atal (Prevent): Defnyddio dull ‘Atal yn Gyntaf’ o ymdrin â sbardunau VAWG, gan gynnig cyfleoedd i hyrwyddo cydberthnasau iach ac ymddygiadau cadarnhaol.
Yn ogystal â’r Cynllun ar Dudalen sydd wedi cael ei gyhoeddi, ceir cynllun cyflawni cynhwysfawr sy’n cynnwys canlyniadau, effeithiau a pherchnogion camau gweithredu ar gyfer pob amcan (yn unol â’r Cynllun Heddlu, Throsedd A Chyfiawnder) y bydd partneriaid yn ei hyrwyddo ar y cyd er mwyn monitro cynnydd a rhoi tystiolaeth o’r newidiadau a roddir ar waith.
Wrth gwblhau’r Cynllun hwn, gwnaethom ymgynghori â dioddefwyr-goroeswyr VAWDASV, a gwasanaethau arbenigol, gan sicrhau bod y lleisiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn cael eu clywed a’u hystyried yng nghynnwys ac addewidion y Cynllun hwn.
“Heddiw, Mawrth 30, rwy’n lansio fy Nghynllun VAWDASV ar y Cyd, sef cynllun cyflawni a rennir, a ddatblygwyd ar y cyd â phartneriaid ledled De Cymru. Fel eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, ac rwy’n gobeithio y bydd y Cynllun hwn yn cyfrannu at ein cenhadaeth barhaus i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae’r Cynllun yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd gyda’n gilydd i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr pob math o VAWDASV, yn unol â’r addewid yn fy Nghynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder 2025-29. O gryfhau ymatebion amlasiantaethol a gwella profiadau dioddefwyr, i atal ymddygiadau niweidiol ac ymgysylltu â phobl ifanc, mae’r Cynllun hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad ar y cyd i sicrhau newid ystyrlon, parhaus ym mhob rhan o’n rhanbarth. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio â mi ar bob cam o ddatblygiad y Cynllun hwn ac sy’n ymroddedig i’r nod a rennir o greu De Cymru Ddiogel, Cyfiawn a Chynhwysol y mae pob un ohonom ei eisiau a’i angen.” CHTh Emma Wools
Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder 2025-29Beth am drais yn erbyn dynion?
Gwyddom y gall y math hwn o gam-drin effeithio ar ddynion a bechgyn hefyd a’u bod yn dioddef trais. Byddwn yn sicrhau bod yr heddlu’n parhau i gynnig y gwasanaeth a’r cymorth gorau posibl i ddioddefwyr gwrywaidd. Fodd bynnag, gwyddom fod nifer y digwyddiadau a’u difrifoldeb yn cael effaith anghymesur ar fenywod, a dyna pam rydym yn canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod a merched.
Yn ôl Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, bydd bron un o bob tair o fenywod wedi cael profiad o gam-drin domestig rywbryd yn ystod eu hoes a bydd bron un o bob pump o fenywod wedi cael profiad o ryw fath o drais rhywiol.
Gallwch ddarllen y Cynllun ar Dudalen yma: LINK
Rydym wedi datblygu rhestr o dermau sy’n gysylltiedig â VAWDASV fel y cyfeirir atynt yn y Cynllun, y gellir ei gweld yma: Rhestr Termau Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Diogelu – Comisiynyddd yr Heddlu a Throseddau
Gallwch ddarllen y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder yma: Cynllun HTC
Gallwch ddarllen y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Blant a Phobl Ifanc yma: Cynllun HTC i BPI
Cyfeiriadur Dioddefwyr
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais, mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth cenedlaethol a lleol. Ceir gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a sut i gysylltu â nhw yn y Cyfeiriadur Dioddefwyr.
Cyfeiriadur DioddefwyrLatest Resources
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
AdnoddauCynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar y Cyd De Cymru
Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu
Latest Updates
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Lansio Cynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar y Cyd De Cymru
Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu Prosiect Athena