Neddf Dedfrydu 2026 - Mynediad Gymorth

Os yw’r newidiadau hyn wedi effeithio arnoch chi neu os ydych chi’n pryderu am ryddhau troseddwyr, mae gwasanaethau lleol ar gael i’ch cefnogi. Dysgwch fwy am sut gallwch gael gafael ar gymorth isod.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi sefydlu Llinell Gymorth Rhyddhau Troseddwyr bwrpasol sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth emosiynol ac ymarferol. Mae’r llinell hefyd yn helpu pobl sy’n poeni am droseddwr yn cael ei ryddhau, neu bobl y mae hyn yn effeithio arnynt, i gael mynediad at wasanaethau eraill.

Pwrpas y Llinell Gymorth yw:

  • Gwrando ar bryderon dioddefwyr a goroeswyr a chynnig cymorth emosiynol iddynt
  • Trafod lles, diogelwch a’r camau nesaf posibl
  • Rhoi arweiniad ymarferol a helpu’r rhai hynny sy’n ffonio i ddeall beth gall y newidiadau ei olygu
  • Esbonio sut y gall rhywun ofyn am ragor o wybodaeth. Ni fydd y Llinell Gymorth yn gallu darparu manylion penodol am achosion na dyddiadau rhyddhau.
  • Helpu pobl i gael mynediad at gymorth parhaus neu arbenigol pan fo hynny’n briodol

Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth ar 0808 168 9280.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Llinell Gymorth a’r cymorth sydd ar gael yn https://victimsupport.org.uk/offender-release-helpline.

Llinell Cymorth

Neddf Dedfrydu 2026 - Cymorth Arbenigol yn ne Cymru

Gyda chymorth cyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi comisiynu pwynt cyswllt unigol lleol ledled ardal de Cymru ar ffurf Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar (Multi-Crime Early Release Scheme Victims’ Champion).

Bydd ein Hyrwyddwr Dioddefwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â dioddefwyr a goroeswyr y mae newidiadau yn y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi effeithio arnynt, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi

Bydd yr Hyrwyddwr Dioddefwyr o dan y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar yn cynnig y canlynol:

  • Eiriolaeth a chyswllt â’r heddlu, y gwasanaeth prawf, llysoedd ac asiantaethau eraill i helpu i gasglu gwybodaeth a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
  • Asesiadau anghenion unigol fydd yn nodi gofynion cymorth ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch a chymorth priodol.
  • Cymorth ymarferol a gwasanaethau cyfeirio, gan gynnwys cymorth â materion tai, pryderon am addysg, a gorchmynion amddiffyn.
  • Cydlynu â gwasanaethau cymorth ac asiantaethau partner i sicrhau eich bod yn cael cymorth cydgysylltiedig ac yn cael gafael ar y cymorth lleol sydd ar gael i chi.

Os hoffech gael cymorth drwy Hyrwyddwr Dioddefwyr y Cynllun Rhyddhau Carcharorion Aml-droseddau yn Gynnar, ffoniwch Ffocws Dioddefwyr De Cymru ar 0300 303 0161.

Fel arall, gallwch ddilyn y broses hunanatgyfeirio ar wefan Atgyfeiriadau Dioddefwyr/Tystion – Ffocws Dioddefwyr De Cymru

Cymorth

Cyfeiriadur Dioddefwyr

Mae’r tudalen hwn yn darparu gwybodaeth a chymorth i ddioddefwyr a thystion yn dilyn trosedd.

Cyfeiriadur Dioddefwyr

Ymagwedd System Gyfan Merched

De Cymru

Cefnogi a gwella bywydau menywod agored i niwed i leihau troseddu ac aildroseddu drwy gynnig cymorth wedi’i dargedu’n fwy effeithiol ac osgoi bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth i alluogi menywod i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol, iach, heb droseddu. Mae Future 4 yn croesawu atgyfeiriadau gwirfoddol i’r gwasanaeth gan yr heddlu, y gwasanaeth prawf a bydd hefyd yn ystyried atgyfeiriadau gan asiantaethau eraill (e.e. trydydd sector, gwasanaethau awdurdod lleol).

Ymddiriedolaeth Goroeswyr

Asiantaeth ambarél ar gyfer gwasanaethau treisio a cham-drin rhywiol arbenigol yn y DU

Warning

Sylwch fod y sefydliadau hyn yn wahanol i'r gwasanaethau brys, maent yn darparu cymorth ac adnoddau arbenigol ar gyfer gwahanol anghenion, gan gynnig ffyrdd ychwanegol o gymorth y tu hwnt i ymateb ar unwaith.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng, ffoniwch 101.

Tudalen 5 o 5