“Yn ddiogel, yn cael eich clywed, yn cael eich parchu”: Mae’r Comisiynydd Emma Wools yn lansio’r Cynllun Polisi, Trosedd a Cyfiawnder cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Ne Cymru

Yn ddiogel, yn cael eich clywed, yn cael eich parchu”: Mae’r Comisiynydd Emma Wools yn lansio’r Cynllun Polisi, Trosedd a Cyfiawnder cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Ne Cymru

 

Heddiw (Dydd Llun 13 Hydref), bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools yn lansio Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder i Blant a Phobl Ifanc arloesol, wedi’i lywio gan leisiau mwy na 5,000 o bobl ifanc ledled De Cymru.

Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Ngorllewin Cymru, gan bennu chwe blaenoriaeth glir i sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu clywed ac yn cael eu parch yn eu cymunedau, ac yn bwysig, bod eu lleisiau’n helpu i lunio penderfyniadau am heddlu a diogelwch cymunedol.

Ochr yn ochr â’r lansiad, mae’r Comisiynydd wedi pwysleisio ei hymrwymiad i blant a phobl ifanc drwy dynnu sylw bod ei swyddfa, yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, yn buddsoddi dros £1.6 miliwn mewn prosiectau, gwasanaethau a rhaglenni sy’n cefnogi eu diogelwch, eu llesiant a’u dyfodol.

Yn siarad cyn y lansiad, dywedodd y Comisiynydd Emma Wools:

“Rhoddodd miloedd o bobl ifanc o’u hamser a’u hymddiriedaeth i ni. Gwnaethant siarad yn onest am eu pryderon a’u rhwystredigaethau, ond hefyd am eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer eu cymunedau.

Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn ymateb i’r lleisiau hyn. A hoffwn fod yn glir: mae ein hymrwymiad eisoes yn un gwirioneddol a diriaethol. Eleni, mae fy swyddfa yn buddsoddi dros £1.6 miliwn mewn prosiectau, gwasanaethau a rhaglenni sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ledled De Cymru. 

Bydd y cynllun hwn yn sicrhau y caiff y buddsoddiad hwnnw a’n holl ymdrechion eu llywio gan yr hyn y dywedodd pobl ifanc eu hunain wrthym am yr hyn sy’n bwysicaf iddynt. Mae’r cynllun hwn yn fwy na geiriau ar dudalen. Mae’n addewid, ymrwymiad i wrando, i weithredu, ac i gydweithio fel bod pob plentyn yn De Cymru yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei glywed, ac yn cael ei barchu.

 Y Chwe Blaenoriaeth

Mae’r cynllun yn nodi chwe blaenoriaeth ar gyfer y pedair blynedd nesaf:

  1. Gwneud ein cymunedau’n fwy diogel – mynd i’r afael â thrais, diogelwch ar-lein, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamfanteisio, gan gefnogi pobl ifanc i greu cymdogaethau mwy diogel ar yr un pryd.
  2. Hyrwyddo presenoldeb cadarnhaol gan yr heddlu – sicrhau bod yr heddlu yn ymgysylltu’n fwy ag ysgolion, grwpiau ieuenctid a chymunedau i feithrin ymddiriedaeth a gwelededd yn y ffordd gywir.
  3. Meithrin ymddiriedaeth a gwella cyfathrebu – hyfforddi swyddogion i wrando ac i barchu pobl ifanc, gwella tryloywder a rhoi rôl gryfach i bobl ifanc yn y gwaith o graffu a gwneud penderfyniadau.
  4. Gwella prosesau i roi gwybod am droseddau a ffyrdd o roi adborth – creu adnoddau adrodd sy’n addas i blant, sicrhau bod y plant yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a rhannu canlyniadau mewn modd mwy agored.
  5. Addysg, ymyrryd yn gynnar ac atal – gweithio gydag ysgolion a gwasanaethau ieuenctid i atal niwed, mynd i’r afael â chynnwys niweidiol ar-lein a chefnogi pobl ifanc sy’n agored i niwed cyn i broblemau waethygu.
  6. Rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sydd mewn sefyllfaoedd bregus – sicrhau cymorth amserol sy’n ystyriol o drawma ar gyfer y rhai y mae trais, troseddau neu amgylchiadau anodd yn y cartref yn effeithio arnynt.
 Ychwanegodd y Comisiynydd, Emma Wools:

 “Mae’r cynllun hwn wedi cael ei lunio gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Ond mae hefyd yn alwad i weithredu i bob un ohonom, yr heddlu, ysgolion, cynghorau, gwasanaethau iechyd, teuluoedd a chymunedau, gydweithio a chyflawni. Dim ond pan fyddwn yn gwrando, yn gweithredu ac yn cefnogi ein gilydd y mae newid gwirioneddol yn digwydd.”

Dywedodd y Gweinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Dawn Bowden AS: 

“Mae’r cynllun arloesol hwn yn dangos pŵer gwrando ar leisiau ifanc a gweithredu ar eu blaenoriaethau. Rydym yn cefnogi mentrau sy’n rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd penderfyniadau ar ddiogelwch cymunedol. Mae De Cymru yn arwain y ffordd drwy greu amgylcheddau mwy diogel a mwy cefnogol lle gall pob plentyn ffynnu a chyrraedd ei llawn botensial.”

Dywedodd Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Charlotte Williams: 

“Rwyf wir yn gwerthfawrogi ymrwymiad y Comisiynydd i roi plant a phobl ifanc yn ganolbwynt i’r cynllun hwn yn fawr. Drwy wrando o ddifrif ar leisiau pobl ifanc, mae gennym gyfle go iawn i lywio plismona a chyfiawnder mewn ffordd sy’n teimlo’n fwy diogel, yn fwy teg ac yn wir yn diwallu anghenion pobl.”

 

Bydd Swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda Heddlu De Cymru, ysgolion, gwasanaethau ieuenctid a phartneriaid cymunedol i gyflawni addewidion y cynllun ac i fesur cynnydd.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Members of Gellideg Foundation Group

Yn Eich Cymuned – Merthyr Tudful, Caerdydd ac Abertawe

Summer Placement Training Programme Alumni

Gwneud Plismona sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol – ‘Rhaglen Hyfforddi Lleoliad Haf’ Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools 

PCC logo

DATGANIAD – Ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i Wrthdrawiad E-feic Angheuol.