Ymweliad â Chanolfan i Fenywod Pontypridd

Staff o Ymddiriedolaeth Nelson a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y tu allan i Ganolfan i Fenywod Pontypridd.

Ymweliad â Chanolfan i Fenywod Pontypridd

Ym mis Rhagfyr, ymwelodd y Cyfarwyddwr Cyfiawnder a Phennaeth Dioddefwyr a Chyfiawnder Troseddol â’r Ganolfan i Fenywod Pontypridd newydd, sy’n gartref i Wasanaeth One Wales. Dyma’r ganolfan ddiweddaraf i gael ei hychwanegu at y rhwydwaith cynyddol o Ganolfannau i Fenywod sy’n cynnwys canolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Dyfed-Powys.

Mae Gwasanaeth One Wales, a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Nelson a’i phartneriaid, yn darparu cymorth penodol sy’n ystyriol o drawma i fenywod ac oedolion ifanc sy’n rhan o’r system gyfiawnder yng Nghymru. Fel rhan o’r gwasanaeth, mae Canolfannau i Fenywod yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol, gan helpu menywod i wneud newidiadau cadarnhaol a chynaliadwy yn eu bywydau.

Yn ystod yr ymweliad, darparodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Nelson daith o’r cyfleusterau newydd a rhannodd wybodaeth am effaith y gwasanaeth, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer sut y bydd y ganolfan ym Mhontypridd yn cefnogi menywod o’i lleoliad newydd.

Mae’r ganolfan newydd yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen wrth sicrhau cymorth hygyrch, wedi’i deilwra i fenywod yn eu cymuned leol. Nod One Wales yw sicrhau gwelliannau parhaus i ganlyniadau a phrofiadau menywod drwy gydol eu taith gyfiawnder, gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau cyfiawnder troseddol, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a’r sector gwirfoddol. Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod y cymorth nid yn unig yn rhoi budd i unigolion ond hefyd yn cyfrannu at gymunedau mwy diogel.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfannau i Fenywod Ymddiriedolaeth Nelson, gan gynnwys sut i wneud atgyfeiriad at Wasanaeth One Wales, ewch i https://www.nelsontrust.com/one-wales/.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o Comisiynydd, Emma Wools gyd plant o ysgol Heronsbridge

Dydd Cymuned Pen-y-bont – Wedi’i Bweru gan Leisiau Ifanc

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Emma Wools gyda Swyddog Heddlu yn Merthyr Tudful

Manyleb Gwasanaeth – Asesiad o Anghenion Dioddefwyr De Cymru

PCC Newsletter

Cylchlythyr CHTh – Rhagfyr 2025