Prosiect Athena
Canllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu
Diffiniadau
- Defnydd mynych a bwriadol o’r rhyngrwyd a dulliau cyfathrebu electronig eraill i gyfathrebu mewn modd parhaus a dieisiau gyda’r bwriad o ddychryn rhywun, ei fygwth neu aflonyddu arno yw seiberstelcio.
- Cam-drin y gellir ond ei gyflawni drwy ddefnyddio technoleg ddigidol e.e. hacio, ysbïwedd yw cam-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber.
- Cam-drin ‘traddodiadol’ ydyw sy’n cael ei hwyluso gan ddulliau seiber e.e. seiberstelcio, neu dwyll ar-lein fel swyno drwy dwyll.
Beth yw Prosiect Athena?
Dogfen gymorth hawdd ei deall yw Prosiect Athena. Fe’i datblygwyd gan Heddlu De Cymru ac mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr Seiberstelcio ac Aflonyddu a darparu canllawiau trylwyr i ddioddefwyr, gweithwyr proffesiynol a’r Heddlu ar yr un pwnc. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys camau manwl y gall unigolion eu cymryd i ddiogelu eu hunain ar-lein ac wrth ddefnyddio technoleg/rhaglenni ar-lein. Mae’n cwmpasu troseddau a cham-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber ac sy’n cael eu hwyluso gan ddulliau seiber, ac mae wedi’i drefnu fesul categori e.e., y cyfryngau cymdeithasol, ffonau symudol a thechnoleg cartref clyfar.
Myfyrwraig Raddedig mewn Seiberddiogelwch ac Arweinydd Datblygiad Prosiect Athena, Chloe Williams: ‘Drwy gwblhau Prosiect Athena, rwy’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r dulliau a ddefnyddir gan droseddwyr Seiberstelcio ac Aflonyddu. Hefyd, rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi gwybodaeth i swyddogion, staff a goroeswyr am ffyrdd o sicrhau diogelwch dyfeisiau ac atal y troseddau hyn rhag digwydd.’
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools: “Prosiect Athena yw’r union fath o ddull cydlynol sy’n canolbwyntio ar ddioddefwr sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o seiberstelcio. Mae seiberstelcio yn treiddio pob rhan o fywyd person, yn aml yn gwneud i ddioddefwyr deimlo’n ynysig ac yn anniogel. Drwy ddod â Heddlu De Cymru a gwasanaethau cymorth ynghyd ledled ein rhanbarth, gallwn sicrhau ein bod yn amddiffyn dioddefwr mewn ffordd fwy effeithiol a dwyn cyflawnwyr i gyfrif. Mae’n bleser gennyf gefnogi Prosiect Athena a’i ymrwymiad i ddiogelu pob un o’n cymunedau rhag niwed digidol, mae’n elfen hollbwysig o’n nod o ddarparu’r De Cymru diogel, cyfiawn a chynhwysol sydd ei angen arnom ac rydym yn dymuno ei weld.
Latest Resources
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
AdnoddauCanllawiau Seiberstelcio ac Aflonyddu
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion
Y Comisiynydd yn sicrhau cyllid newydd i wella diogelwch a chefnogaeth mewn cymunedau.
Lansio Cynllun Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ar y Cyd De Cymru