Mae’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn hyrwyddo pedair egwyddor er mwyn sicrhau bod trefniadau ‘dwyn i gyfrif’ yn effeithiol:

  1. Darparu her ‘cyfaill beirniadol’ adeiladol
  2. Amlygu lleisiau a phryderon y cyhoedd
  3. Cael arweiniad gan bobl annibynnol sy’n cymryd cyfrifoldeb am eu rôl
  4. Ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus

 

Mae’r Comisiynydd a’i dîm yn gweithio gyda’r egwyddorion hyn mewn golwg wrth gyflawni eu rôl goruchwylio a chraffu.

Mae’r cyfarfodydd canlynol yn cefnogi’r broses graffu a goruchwylio:

Bwrdd Strategol y Comisiynydd

Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd y Prif Gwnstabl a’i Brif Swyddogion hefyd yn bresennol. Y Bwrdd hwn yw’r brif ffordd y mae’r Comisiynydd yn goruchwylio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr heddlu ac yn monitro cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu .

Bwrdd Craffu ac Atebolrwydd y Comisiynydd

Y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd Prif Swyddogion y Prif Gwnstabl yn bresennol. Mae’r Bwrdd hwn yn craffu’n fanwl ar faterion plismona penodol, yn enwedig y rhai a nodwyd yng Nghynllun Heddlu a Gostwng Troseddu y Comisiynydd a Chynllun Cyflawni cysylltiedig y Prif Gwnstabl. Yn y cyfarfod hefyd, rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad a phrosiectau allweddol yr heddlu. Caiff y canfyddiadau eu cyfleu i’r Bwrdd Strategol. Gellir dod o hyd i’r Cylch Gorchwyl a rhaglen graffu 2019 yma.

Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona (PALG) y Comisiynydd

Mae’r grŵp hwn, sy’n cael ei gadeirio gan Brif Weithredwr y Comisiynydd, yn helpu’r Comisiynydd â’i swyddogaeth graffu a goruchwylio drwy ddarparu mewnbwn allanol, annibynnol.

Cydbwyllgor Archwilio

Mae’r pwyllgor hwn, sydd wedi’i gadeirio’n annibynnol, yn mynd ati i gyd-arolygu Heddlu De Cymru a’r Comisiynydd. Gellir dod o hyd i’r Cylch Gorchwyl yma.

Mae cofnodion y cyfarfod yma.

HMICFRS

Mae’r Comisiynydd hefyd yn monitro hynt Heddlu De Cymru o ran yr argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS), ac mae’n ymateb i adroddiadau perthnasol HMICFRS. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.