Ers yr etholiadau cyntaf ar gyfer comisiynwyr yr heddlu, rydym wedi datblygu ethos pwerus o gydweithredu sy’n cadw ein cymunedau’n ddiogel. Mae’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl yn rhannu’r egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i gynllun yr heddlu a throseddu.

Ein nod yw sicrhau mai ni yw’r gorau o ran deall ac ymateb i anghenion pob un o’n cymunedau. Mae gweithio gyda chymunedau a phartneriaid yn allweddol i ddarparu’r ymateb sydd ei angen ar ein pobl, pan fydd ei angen arnynt. Caiff mynd i’r afael â throseddwyr – yn enwedig troseddwyr cyfundrefnol  ’r rhai sy’n cam-fanteisio ar bobl sy’n agored i niwed – ei gydbwyso ag atal ac ymyrryd yn gynnar a dealltwriaeth lawn o gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae’r her ariannol wedi bod yn enfawr ac yn parhau felly. Ers 2010, mae arian gan Lywodraeth y DU drwy Grant yr Heddlu wedi’i leihau fwy na 32% (termau real) ac eto, rydym wedi sicrhau gwerth bron £0.85 biliwn o fuddiannau cymdeithasol ac economaidd i Dde Cymru.

Rydym yn canolbwyntio ar arloesedd, ymyrryd yn gynnar a chymryd camau cadarnhaol prydlon, gan weithio gyda phartneriaid i gymryd camau mewn perthynas â’r galw o ran iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Er gwaethaf yr heriau ariannol, nid ydym wedi cilio’n ôl oddi wrth ein cymunedau lleol. Nid ydym ychwaith wedi stopio mynd i’r afael â throseddau lefel isel nac wedi colli cyfleoedd ar gyfer atal. Mae plismona yn y gymdogaeth yn hanfodol wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a  hroseddau a dyna pam rydym wedi parhau i  uddsoddi. O gymharu i raddau helaeth ag ardaloedd eraill, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, rydym wedi cynyddu niferoedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac wedi cryfhau ffocws eu rôl i ymgysylltu â chymunedau, datrys problemau yn lleol a grymuso cymunedau i fod yn wydn, yn ddiogel ac yn hyderus.

Fel rhan o Raglen Recriwtio Swyddogion yr Heddlu y Swyddfa Gartref, rydym wedi recriwtio 870 o swyddogion newydd ers 2019 – 92% yn fwy na’r cynnydd targedig o 452. Mae hwn yn gyflawniad enfawr ac mae wedi ein galluogi i groesawu swyddogion newydd o wahanol gefndiroedd a diwylliannau, a fydd yn cyflwyno syniadau a safbwyntiau newydd i’r heddlu.

Rydym yn delio ag effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Rydym yn diogelu dioddefwyr trais a cham-drin domestig drwy herio troseddwyr a lleihau cyfraddau aildroseddu. Rydym yn gweithio gyda’r gwasanaeth prawf ac yn gwella’r ffordd rydym yn rheoli troseddwyr. Ein nod yw cynnwys  awb a chynnal lefelau uchel o foddhad ymhlith dioddefwyr. Rydym wedi atgyfnerthu’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a’r timau troseddau ieuenctid.

Rydym yn chwarae rhan lawn mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn gweithio gyda Llywodraeth Leol, y GIG ac eraill ar ddarpariaeth leol. Ein nod yw sicrhau “mwy o waith partneriaeth drwy lai o gyfarfodydd â ffocws gwell” er mwyn cyflawni pethau.

Rydym wedi creu sylfeini cadarn ond byddwn yn ceisio gwella ac ymateb yn effeithiol i alwadau newydd bob amser. Cynllun yr Heddlu a Throseddu De Cymru yw’r sail ar gyfer y ffordd y byddwn yn cyflawni rhagoriaeth wrth blismona cymunedau De Cymru.

Cynllun Yr Heddlu A Throseddu De Cymru

Gellir dod o hyd i gynlluniau'r blynyddoedd blaenorol yn ein hadran adnoddau

Adnoddau

Cynllun Yr Heddlue A throseddu De Cymru 2023-27