Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter i ystyried perfformiad ariannol ac anariannol lle gallai’r sefydliad wynebu risg, yn ogystal â delio â’r holl faterion archwilio mewnol.

Aelodaeth

Penodwyd aelodau ar ôl hysbyseb gyhoeddus.

  • Mrs Paula O’Connor (Cadeirydd)
  • Mrs Aimee Smith (Is-Gadeirydd)
  • Mr Paul Wood
  • Mr Martin Veale
  • Mr Mike Lewis
  • Mr Jon Wall

Gwneir penodiadau am dymor o bedair blynedd, a bydd y swydd yn para hyd at ddau dymor yn olynol.

Mae lwfans, sy’n werth £210 y dydd, neu £105 fesul hanner diwrnod i aelodau a £268 y dydd, neu £134 fesul hanner diwrnod i’r Cadeirydd yn daladwy ar hyd o bryd, ynghyd â chostau teithio o 45c y filltir. Caiff lwfans amser darllen ond ei dalu ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol yn unig, sef pedair awr am ddiwrnod llawn a dwy awr am gyfarfod hanner diwrnod.

Mae cofnodion y cyfarfodydd hyd at 2023 ar gael yn yr adran adnoddau a chyhoeddiadau.

DOGFENNAU DEFNYDDIOL

Mae rhagor o ddogfennau a gwybodaeth ar gael yn ein hadran adnoddau.

Adnoddau

Cofnodion a Dogfennu Allweddol Y Cydbwyllgor Archwilio