Mae’r Grŵp Cynghori Annibynnol ar gyfer Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron (FELIAG) yn fforwm cydweithredol a thryloyw ar gyfer cyfathrebu rhwng Heddlu De Cymru a’r gymuned saethu. Gyda chefnogaeth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, sef y corff annibynnol sy’n hwyluso ac yn goruchwylio’r Grŵp, mae FELIAG yn helpu i sicrhau cysylltiadau agored, cytbwys ac adeiladol rhwng yr holl bartïon.
Ei ddiben yw rhannu diweddariadau ar ddatblygiadau mewn deddfwriaeth a pholisïau a allai effeithio ar chwaraeon saethu a gweithgareddau cysylltiedig. Mae hefyd yn llwyfan strwythuredig i aelodau o’r gymuned saethu godi pryderon, rhannu barn, a thrafod materion sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r Grŵp yn dwyn ynghyd gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ar draws pob prif ddisgyblaeth saethu, gan greu ffynhonnell werthfawr o arweiniad a dealltwriaeth i’r holl randdeiliaid. Mae hefyd yn galluogi Heddlu De Cymru i ymgysylltu ac ymgynghori â sefydliadau saethu allweddol ynghylch datblygiadau lleol a chenedlaethol, materion gweithredol ac arferion gorau, gan helpu i lywio a llunio polisïau a gweithdrefnau lleol.
Yn bwysig, mae’r Grŵp Cynghori Annibynnol yn fforwm ymgynghorol sydd â’r nod o i wella cyfathrebu, dealltwriaeth a gweithio mewn partneriaeth. Er y gall ystyried a thrafod effaith deddfwriaeth a newidiadau polisi ar y gymuned saethu, nid yw’n fecanwaith ar gyfer newid neu ddylanwadu ar ddeddfwriaeth arfau tanio genedlaethol yn y Deyrnas Unedig.
Latest Resources
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau