TEITL SWYDD: Uwch-swyddog Polisi (Partneriaethau)
GRADD: PO3 £47,046.00 – £50,949.00 (pro-rata)
LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 22 awr yr wythnos
CYFNOD: Cyfnod penodol – tan fis Mai 2028
FETIO: MV/SC (FETIO RHEOLI/CLIRIAD DIOGELWCH)
Mae cyfle wedi codi i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ystod cyfnod hollbwysig o newid sylweddol. Bydd yr Uwch-swyddog Polisi (Partneriaethau) yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi gweithgarwch partneriaeth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy’n hanfodol i’n dull gweithredu amlasiantaethol, gan sicrhau bod partneriaethau effeithiol yn cael eu cynnal wrth i ni symud tuag at ddiwedd tymor y Comisiynydd a model i ddisodli Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2028.
Mae hon yn swydd allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, Partneriaethau ac Atal yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru. Gan weithio’n agos gydag aelodau o’r tîm ehangach, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ffrydiau gwaith sy’n ymwneud â phartneriaethau yn ein rhaglen bontio wrth gefnogi gweithgarwch partneriaethau presennol ym mhob rhan o’r Swyddfa.
Mae hon yn swydd allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, Partneriaethau ac Atal sy’n gofyn am unigolyn dynamig a dylanwadol sy’n gweithio’n dda mewn tîm ac yn gallu gweithio mewn modd systematig wrth addasu i newid. Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei wybodaeth am y sector a’i sgiliau wrth weithio mewn partneriaeth i gael effaith yn gyflym.
Am ragor o wybodaeth am y rôl, e-bostiwch Dr Cerys Miles, Cyfarwyddwr Cymunedau, Partneriaethau ac Atal: cerys.miles@south-wales.police.uk
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i hrcommissioner@south-wales.police.uk yn nodi sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn 12YP ar 21/08/2026. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau