Mae’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru yn ceisio recriwtio hyd at 10 o unigolion cymwys yn y gyfraith (LQP). Rôl y LQP ydy darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i’r Cadeirydd a’r Panel, a’u cynorthwyo gyda materion gweithdrefnol a phwyntiau cyfraith. Mae’r Paneli yn cael eu cadeirio gan brif swyddog neu uwch swyddog heddlu, neu aelod o staff yr heddlu o radd gyfatebol. Bydd y Panel hefyd yn cynnwys dau Aelod o’r Panel Annibynnol, a benodwyd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd. Bydd yn ofynnol i’r LQP weithio ym mhob un o’r pedair ardal heddlu yng Nghymru, sef Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.
Ceisir ceisiadau gan gyfreithwyr cymwys sydd â phrofiad yn y maes neu wybodaeth ynglÿn â rheoliadau ymddygiad yr heddlu. Unigolyn sy’n gallu dangos uniondeb ac annibyniaeth meddwl, ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, barn gadarn ac ymagwedd wrthrychol o faterion a gyflwynir. Er nad yw plismona wedi’i ddatganoli yng Nghymru, rhaid i ymgeiswyr ddeall nodweddion cynnal Gwrandawiadau yng Nghymru.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r amod cymhwysedd penodi barnwrol ar sail 5 mlynedd, fel y nodir yn Adran 50 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007. Rydym yn croesawu amrywiaeth a chaiff bawb wneud cais. Cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd am fwy o
wybodaeth drwy ffonio 01492 805486, drwy e-bost OPCCvacancy@northwales.police.uk neu ewch i www.northwales-pcc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd, Dydd Gwener 22 Awst 2025.