Pennaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Diogelu, Megan Stevens
Arweiniodd Megan y gwaith o ddatblygu cynllun Gweithredu Trais yn Erbyn Menywod a Merched Cydweithredol De Cymru, sy’n nodi camau gweithredu cyflawnadwy o dan y penawdau ‘Paratoi, Amddiffyn, Ymlid, Atal’ ac yn ysgogi cyflawniadau yn y dyfodol, gan weithio mewn partneriaeth agos gyda rhanddeiliaid hanfodol, gan gynnal perthnasau cadarnhaol a gweledigaeth a rennir.
Mae’n arwain y gwaith o ddatblygu polisïau a goruchwylio cyllideb Trais yn Erbyn Menywod a Merched, er mwyn datblygu’r ffordd y darperir gwasanaeth uchelgeisiol ac arloesol, sydd wedi’i arwain gan anghenion, ac ymatebion i ddioddefwyr a phlant sydd wedi’u heffeithio gan Drais yn Erbyn Menywod a Merched, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfleoedd i newid ymddygiad cyflawnwyr, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol.
Mae Megan yn cefnogi Glasbrint VAWDASV ar ran Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, gan sicrhau dealltwriaeth glir o’r hinsawdd bresennol a materion sy’n dod i’r amlwg ym maes Trais yn Erbyn Menywod a Merched, a bydd yn gwneud cysylltiadau trawsbynciol â heddluoedd a Swyddfeydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu eraill er mwyn sicrhau cysondeb wrth fynd i’r afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched.
1x Swyddog Polisi – Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Diogelu
Mae gan y Swyddog Polisi gyfrifoldeb penodol am oruchwylio gwaith sy’n ymwneud â stelcio, cam-drin domestig a chyflawnwyr trais yn erbyn menywod a merched. Mae hyn yn cynnwys datblygu a chefnogi ymateb amlasiantaethol cydlynol i stelcio, cryfhau diogelwch dioddefwyr a nodi ymyriadau effeithiol i herio a lleihau ymddygiadau niweidiol. Mae agwedd ganolog ar y rôl yn cynnwys cydweithio ar draws asiantaethau partner i wella’r gwasanaethau a ddarperir a sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth o ansawdd uchel yn gyson. Mae’r Swyddog Polisi’n cyfrannu at sawl grŵp trais i fenywod a merched rhanbarthol ac mae’n cynrychioli Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn fforymau cenedlaethol gan helpu i rannu dysgu, tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ac arfer gorau. Mae hefyd yn rheoli dosbarthiad cyllid ar draws amrywiaeth o sefydliadau, gan geisio adborth gan bartneriaid cyflawni ac ymgysylltu â dioddefwyr a goroeswyr i sicrhau bod eu profiadau’n dylanwadu mewn ffordd ystyrlon ar ddatblygu a gwella gwasanaethau.
1x Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi – Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Diogelu
Y Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi yw’r aelod mwyaf newydd o’r tîm ac mae ganddo ffocws penodol ar Niwed a Diogelwch Ar-lein, gan gynnwys niweidiau fel bod yn seiberddibynnol a cham-drin wedi’i hwyluso gan ddulliau seiber, twyll, radicaleiddio a chamwybodaeth/twyllwybodaeth. Mae’r Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddatblygu ymwybyddiaeth o niwed ar-lein a bod yn sail i ddeddfwriaeth er mwyn rhannu gwybodaeth gyda’r heddlu, gweithwyr proffesiynol a chymunedau De Cymru, gyda’r nod o roi gwybod sut y gallwch ddiogelu’ch hun ar-lein. Mae hefyd yn cefnogi’r gwasanaethau amrywiol a ariennir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy’n ymgysylltu â phobl agored i niwed gan gynnwys plant a phobl ifanc, menywod a merched, bechgyn a dynion ifanc a phobl o grwpiau ar yr ymylon sy’n ddioddefwyr, neu’n wynebu risg o niwed ar-lein i gael hyfforddiant arbenigol ar y pynciau allweddol hyn.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais, mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth cenedlaethol a lleol. Ceir gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a sut i gysylltu â nhw yn y Cyfeiriadur Dioddefwyr.
Cyfeiriadur Dioddefwyr