Teitl Swydd: Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisie
Gradd: 6/S01 £32,247.00 – £37,692.00
Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
Oriau: 37
Cyfnod: Cyfnod penodol/cyfle secondiad o 12 mis
Lefel Fetio Ofynnol: MV/SC
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Swyddog Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, De Cymru. Bydd y Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisieyn cefnogi’r Pennaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) a Diogelu a’r Swyddog Polisi i gyflawni blaenoriaethau o fewn Cynllun yr Heddlu, Troseddau a Chyfiawnder. Bydd yn canolbwyntio ar amddiffyn a chefnogi dioddefwyr VAWG, deall a mynd i’r afael â phobl sydd o risg uchel o gyflawni trais a diogelu pobl, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed ar-lein. Bydd yn cefnogi, yn cynghori ac yn cydweithio er mwyn cyfrannu at amcanion a nodau’r Prosiect a’r Polisi ym mhob mater yn ymwneud â pholisi, cynllunio strategol, cyflawni prosiectau a pherfformiad, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Troseddau a Chyfiawnder Heddlu De Cymru yn barhaus.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â’r Pennaeth VAWG a Diogelu, Megan Stevens (megan.stevens1@south-wales.police.uk).
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i: hrcommissioner@south-wales.police.uk yn dangos sut rydych yn bodloni gofynion y rôl erbyn 12.09.2025 12PM. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Adnoddau Diweddaraf
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau