TEITL SWYDD: Swyddog Polisi – Trais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) a Diogelu
GRADD: PO1/2 £39,813 – £45,147
LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 37
CYFNOD: Cyfnod Penodol/Secondiad o 12 mis
FETIO: MV/SC
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Swyddog Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, De Cymru. Bydd y Swyddog Polisi (VAWG a Diogelu) yn cefnogi Pennaeth VAWG a Diogelu i gyflawni’r blaenoriaethau o fewn y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder, i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr o VAWG, deall a mynd i’r afael â phobl sydd o risg uchel o drais a diogelu pobl, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed ar-lein. Bydd yn cefnogi gwaith o ddatblygu a rhoi cynllun cydweithredol VAWG ar waith, gweithio’n agos gyda phartneriaid i roi strategaethau, polisïau a datblygiadau newydd ar waith.
Bydd angen i’r Swyddog Polisi ddatblygu cydberthnasau cryf â phartneriaid er mwyn cyflawni ffyrdd effeithlon, effeithiol, cydweithredol ac arloesol o weithio er mwyn nodi arfer gorau ledled De Cymru. Bydd deiliad y swydd yn ganolog i sicrhau y caiff blaenoriaethau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu eu gweithredu drwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth, gan gefnogi canlyniadau gwell i gymunedau ledled De Cymru.
Mae hon yn swydd allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, Partneriaethau ac Atal sy’n gofyn am unigolyn dynamig o safon uchel sy’n ymddwyn yn broffesiynol ac mewn ffordd ragweithiol a gwydn, sydd â dealltwriaeth o dirwedd partneriaethau ledled De Cymru. Bydd yr unigolyn hefyd yn awyddus i wneud gwahaniaeth ynghyd â meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu er mwyn gwireddu’r weledigaeth honno.
I gael gwybodaeth am y rôl, cysylltwch â’r Pennaeth VAWG a Diogelu, Megan Stevens (megan.stevens1@south-wales.police.uk)
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i hrcommissioner@south-wales.police.uk yn nodi sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn 29.07.2025 12YP. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau