TEITL SWYDD: Swyddog Polisi Cyfiawnder Troseddol

GRADD: P01/2 £41,487.00 – £47,046.00

LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr

YN ADRODD I: Pennaeth Dioddefwyr a Chyfiawnder Troseddol

ORIAU: 37

CYFNOD: Blwyddyn (Cyfnod mamolaeth)

FETIO: MV/SC (Fetio Rheoli/Cliriad Diogelwch)

Rydym yn chwilio am Swyddog Polisi Cyfiawnder Troseddol dynamig a threfnus iawn i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau’r Comisiynydd o fewn y Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder ac, yn benodol, cydlynu cynllun cyflawni’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol.

Mae hon yn rôl allweddol o fewn tîm y Comisiynydd, gan weithio’n agos gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol, yr heddlu, sefydliadau yn y trydydd sector a byrddau strategol i nodi risgiau, gwella perfformiad, a datblygu atebion arloesol a chydweithredol i heriau cyfiawnder troseddol lleol.

O gydlynu cyfarfodydd a chefnogi gyda dyrannu tasgau a gorffen gweithgareddau, i ddadansoddi gwybodaeth a chrynhoi themâu ac argymhellion allweddol, byddwch yn helpu i droi materion cymhleth yn gyngor clir ac ymarferol sy’n llywio’r broses gwneud penderfyniadau. Byddwch hefyd yn helpu i fonitro’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau, cadw cofnodion cywir a chefnogi prosesau llywodraethu.

Mae hwn hefyd yn gyfle i gyfrannu at brosesau gwella tryloywder, atebolrwydd a chanlyniadau ar draws y System Cyfiawnder Troseddol, a helpu i sicrhau bod gwasanaethau’n effeithiol ac yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar anghenion dioddefwyr a chymunedau.

Mae gweithio hyblyg, ambell ymrwymiad gwaith gyda’r nos a theithio ar draws ardal De Cymru yn rhan o’r rôl.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Jade Theaker:Jade.Theaker1@south-wales.police.uk

I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr a llythyr eglurhaol manwl sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rôl hon (gan roi sylw i feini prawf y rhestr fer a nodir ym Mhroffil y Rôl). Dylech hefyd gwblhau’r Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro ac anfon yr holl ddogfennau i: hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 29/04/2026 12YP.   Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Swyddog Polisi Cyfiawnder Troseddol (Cyfnod Mamolaeth) Proffil Y Rôl

Gwybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro