TEITL SWYDD: Swyddog Grantiau a Gweinyddu (Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru)
GRADD: Graddfa 5/6 (£29,109 i £34,329) pro rata
LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 18.5 awr yr wythnos, rhan amser
CYFNOD: Cyfnod Penodol o 24 Mis
AR AGOR I: 18/08/2025 – 05/09/2025 12 hanner dydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Swyddog Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Bydd y Swyddog Grantiau a Gweinyddu yn cynnig cymorth ymroddedig i Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru – sef elusen Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl sy’n ymroddedig i roi grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy’n cynnig llwybr amgen i bobl ifanc, yn lle ymwneud â throseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chamddefnyddio sylweddau.
Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd feddu naillai ar brofiad o weinyddu grantiau neu godi arian mewn amgylchedd sector cyhoeddus neu drydydd sector, a bydd yn chwarae rôl allweddol wrth godi proffil yr Ymddiriedolaeth.
I gael gwybodaeth am y swydd hon cysylltwch â Joanna Markham ar (joanna.markham@south-wales.police.uk)
Er mwyn ymgeisio am y rôl hon, llenwch y Ffurflen Gais a’r Wybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro a’u hanfon at: hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 05.09.2025 12PM. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau