TEITL SWYDD: Swyddog Cymorth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth

GRADD: 6SO1 (£33,603 – £39,276)

LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr

YN ADRODD I: Uwch-swyddog Sicrwydd a Chydymffurfiaeth

ORIAU:  37

CYFNOD: Blwyddyn

FETIO: MV/SC (FETIO RHEOLI/CLIRIAD DIOGELWCH)

AR AGOR I: 13 Medi 2026 18:00

Mae cyfle wedi codi i gefnogi gwaith y tîm Sicrwydd a Chydymffurfiaeth.

Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig, profiadol a llawn cymhelliant i ymuno â’r tîm. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn amgylchedd prysur, dynamig a chyflym.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn drefnus, gallu gweithio’n annibynnol a dangos llygad graff. Bydd angen datblygu cydberthnasau gwaith cadarn ag eraill yn fewnol ac yn allanol. Byddwch yn unigolyn hunangymhellol sy’n gweithio’n dda mewn tîm ac yn gallu datblygu prosesau cadarn a’u rhoi ar waith, gyda dealltwriaeth o weithio yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau penodol.

I wneud cais am y rôl hon, dylech gwblhau’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro a’u hanfon i:  hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 13 Medi 2026 18:00.  Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â; Tamara Powell Tamara.Powell2@south-wales.police.uk

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Swyddog Cymorth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth Proffil y Rôl

Gwybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro

Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Ymgeiswyr

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Ffurflen Gais