Teitl Swydd: Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi

Gradd: 6/SO1 £32,247.00 – £37,692.00

Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru

Oriau: 37

Cyfnod: 1 x Parhaol, 1 x Dros dro am 12 mis

Lefel Fetio Ofynnol: MV/SC 

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, De Cymru. Bydd y Swyddog Cymorth Prosiect a Pholisi yn helpu’r Pennaeth Cyfiawnder Troseddol a Dioddefwyr i gyflawni blaenoriaethau o fewn Cynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder. Bydd deiliad y swydd yn cynnal ac yn cefnogi’r gwaith o roi’r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd statudol a’r Cynllun Lles Anifeiliaid anstatudol ar waith yn effeithiol. Bydd y rôl yn cyfrannu at nodau ac amcanion Prosiect a Pholisi’r Gyfarwyddiaeth Cyfiawnder Troseddol a Dioddefwyr drwy gefnogi, cynghori a chydweithredu ym mhob mater yn ymwneud â pholisi, cynllunio strategol, cyflawni prosiectau a pherfformiad a gweithredu’n gydnaws â phrosesau craffu a sicrwydd. Cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder De Cymru yn barhaus.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon cysylltwch â’r Swyddog Polisi, Hannah Evans-Price Hannah.Evans-Price@south-wales.police.uk

I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro i: hrcommissioner@south-wales.police.uk yn dangos sut rydych yn bodloni gofynion y rôl erbyn 12PM 10/10/2025. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.

Dogfennau Ategol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Ymgeiswyr