TEITL SWYDD: Swyddog Cymorth Gweinyddol Dylunio Sefydliadol
GRADD: 5/6 £29,109.00 – £34,329.00
LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 37 awr yr wythnos
CYFNOD: Cyfnod Penodol / Secondiad o 12 Mis
FETIO: MV/SC
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Swyddog Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, De Cymru. Bydd y Swyddog Cymorth Gweinyddol Dylunio Sefydliadol yn gweithio gyda’r gyfarwyddiaeth Perfformiad, Sicrwydd a Goruchwylio i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Cynllun Datblygu Sefydliadol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am olrhain a chydgysylltu gweithgarwch mewn perthynas â chynnal cydymffurfiaeth gyfreithiol y swyddfeydd.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn drefnus, gallu gweithio yn annibynnol a meddu ar lygad graff. Rhaid i’r unigolyn fod yn hyderus yn dylanwadu ar uwch-arweinwyr ac yn briffio Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid gwasanaeth.
Am fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Paula Bills: Paula.bills@south-wales.police.uk
Er mwyn ymgeisio am y rôl hon, llenwch y Ffurflen Gais a’r Wybodaeth Bersonol a Gwybodaeth Monitro a’u hanfon at: hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 12.09.2025 12PM. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Adnoddau Diweddaraf
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau