TEITL SWYDD: Swyddog Cymorth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
GRADD: 5/6 (£30,333 – £35,772)
LLEOLIAD: Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr
YN ADRODD I: Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu
ORIAU: 37
CYFNOD: Blwyddyn
FETIO: MV/SC (Fetio Rheoli/Cliriad Diogelwch)
Ymunwch â’n tîm a helpwch i wireddu gwaith y Comisiynydd ledled De Cymru.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Cyfathrebu ac Ymgysylltu rhagweithiol, creadigol a threfnus i gefnogi gweithgarwch ymgysylltu ystyrlon rhwng y Comisiynydd, cymunedau a phartneriaid allweddol. Byddwch yn helpu i gynllunio a chynnal digwyddiadau, casglu adborth, a chefnogi’r gwaith o gynhyrchu cynnwys digidol o safon uchel sy’n arddangos canlyniadau cadarnhaol ac yn cynyddu hyder y cyhoedd.
O gydlynu cyfarfodydd a gweithgareddau yn y gymuned i greu cynnwys digidol atyniadol, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y ffordd rydym yn gwrando ar aelodau o’r cyhoedd, yn cyfathrebu â nhw ac yn ymateb iddynt. Byddwch hefyd yn cefnogi ein gwaith o feithrin dealltwriaeth, gan gymryd nodiadau clir, crynhoi themâu allweddol, cynnal cofnodion a chyfrannu at sesiynau briffio.
Os ydych chi’n hyderus wrth weithio gyda rhanddeiliaid amrywiol, yn fedrus wrth weithio ym maes y cyfryngau digidol, yn drefnus iawn ac yn frwdfrydig am wasanaethu’r cyhoedd, hoffem glywed gennych.
Bydd gweithio hyblyg, ambell ymrwymiad gwaith gyda’r nos/ar y penwythnos, a theithio ar draws ardal De Cymru yn rhan o’r rôl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Sarah Davies: Sarah.Davies4@south-wales.police.uk
I wneud cais am y rôl hon, dylech gwblhau’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro a’u hanfon i:hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 12PM 24/04/2026. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau