Cyfeiriadur Dioddefwyr
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais, mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth cenedlaethol a lleol. Ceir gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a sut i gysylltu â nhw yn y Cyfeiriadur Dioddefwyr.
Victims DirectoryDeddfwriaeth
Un o bolisïau’r heddlu yw Cyfraith Clare, sy’n cael ei adnabod hefyd fel y Cynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS), sy’n rhoi’r hawl i bobl wybod a oes gan eu cyn-bartner neu bartner presennol hanes o gyflawni trais neu gam-drin. Mae Cyfraith Clare wedi’i henwi ar ôl Clare Wood, sef mam 36 oed a lofruddiwyd yn Lloegr yn 2009 gan gyn bartner domestig yr oedd yr heddlu’n gwybod ei fod yn beryglus.
Un o bolisïau eraill yr heddlu yw Cyfraith Sarah, a adwaenir hefyd fel Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw Plant, sy’n rhoi’r hawl i bobl wybod a oes gan berson sy’n cael gweld plentyn gofnod o gyflawni troseddau rhywiol yn erbyn plant. Mae Cyfraith Sarah wedi’i henwi ar ôl Sarah Payne, merch 8 oed a gafodd ei herwgipio a’i llofruddio gan bedoffil a gafodd ei euogfarnu yn Lloegr yn y flwyddyn 2000.
Menter ddeddfwriaethol yw Cyfraith Raneem sy’n cael ei threialu mewn pum heddlu yng Nghymru a Lloegr gyda’r nod o wella’r ymateb i gam-drin domestig drwy ymgorffori arbenigwyr cam-drin domestig mewn ystafelloedd rheoli 999 am fwy o gymorth rheng flaen brys priodol. Mae Cyfraith Raneem wedi’i henwi ar ôl Raneem Oudeh, menyw 22 oed a’i mam 49 oed, Khaola Saleem, a lofruddiwyd yn Lloegr yn 2018 gan gyn bartner domestig ar ôl i’r heddlu beidio â gweithredu’n gywir i’w galwadau.
Mae Cyfraith Jade wedi’i chymeradwyo (yn dibynnu ar weithrediad) fel rhan o’r Bil Dioddefwyr a Charcharorion diwygiedig a’i nod yw diogelu plant rhag eu rhieni os byddant wedi’u cael yn euog o lofruddiaeth neu ddynladdiad drwy ohirio cadwraeth riant a’i ddylanwad ar benderfyniadau hollbwysig yn ymwneud â’r plentyn e.e. addysg. Mae Cyfraith Jade wedi’i henwi ar ôl Jane Ward, mam i bedwar 27 oed a lofruddiwyd yn Lloegr yn 2021 gan gyn bartner domestig tra roedd ei phlant gartref gyda hi.
Mae Cyfraith Helen, sy’n cael ei hadnabod hefyd fel y Ddeddf Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr yn ei gwneud yn ofynnol y gallai llofruddion a/neu droseddwyr sy’n dal gwybodaeth yn ôl am ble mae eu dioddefwyr wynebu dedfryd hwy a rhaid ystyried y weithred o beidio â datgelu cyn parôl. Mae Cyfraith Helen wedi’i henwi ar ôl Helen McCourt, merch 22 oed a lofruddiwyd yn Lloegr yn 1998, ac na wnaeth y troseddwr, sydd wedi marw erbyn hyn, erioed ddatgelu lleoliad ei gweddillion.
Terminoleg
- Mae Trais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) yn cyfeirio at weithredoedd o drais neu gam-drin y gwyddom eu bod yn cael effaith anghymesur ar fenywod a merched. Mae’r troseddau a’r ymddygiad y mae’r term hwn yn eu cwmpasu yn cynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, stelcio, cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ (gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a lladdiadau ‘anrhydedd’), yn ogystal â llawer o droseddau eraill, gan gynnwys troseddau a gyflawnwyd ar-lein. (Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu)
- Mae Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn ymgorffori Trais yn erbyn Menywod (a Merched), Cam-drin Domestig, Treisio a Thrais Rhywiol, Aflonyddu Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Stelcio, Masnachu a mathau eraill o drais. (Cymunedau Mwy Diogel Cymru)
- Mae casineb at fenywod (misogyny) yn fath o gasineb, diystyrwch neu ragfarn gynhenid yn erbyn menywod sy’n normaleiddio ac yn cyfreithloni trais yn erbyn menywod a merched ac mae’n darparu cyd-destun ffafriol ar gyfer ymddygiadau ‘cyfreithiol’ ond ‘niweidiol’, a niwed anghyfreithlon fel aflonyddu, cam-drin a stelcio. Mae’r niweidiau hyn yn amlygu eu hunain mewn lleoedd ar-lein ac all-lein. Er gwaetha’r niwed sy’n gysylltiedig â chasineb at fenywod, mae’n gyfreithlon ac nid yw’n cael ei gynnwys dan ddeddfwriaeth trosedd gasineb. (Comisiynydd y Dioddefwr)
- Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu batrwm o weithredoedd ymosod, bygythiadau, cywilydd ac ymddygiad bygythiol neu gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr. Dyluniwyd yr ymddygiad rheoli hwn i wneud person yn ddibynnol drwy ei ynysu o gymorth, camfanteisio arno, ei amddifadu o annibyniaeth a rheoleiddio’i ymddygiad pob dydd. (Cymorth i Ferched)
- Cam-drin domestig yw pan fydd un person yn rheoli rhywun arall mewn cydberthynas agos neu gydberthynas teulu agos; gall y cam-drin fod yn rhywiol, corfforol, ariannol, emosiynol neu seicolegol. Gall y cam-drin ddigwydd yn y cartref neu rywle arall. (Cymorth i Ferched Cymru)
- Mae ymosodiad rhywiol yn unrhyw weithred rywiol na wnaeth person gydsynio iddi, neu y caiff ei orfodi i’w gwneud yn erbyn ei ewyllys. Math o drais rhywiol ydyw ac mae’n cynnwys treisio (ymosodiad sy’n cynnwys treiddio’r wain, yr anws neu’r geg), neu droseddau rhywiol eraill, fel teimlo, gorfodi i gusanu, cam-drin plant yn rhywiol neu arteithio person mewn ffordd rywiol. (Cymunedau Mwy Diogel Cymru)
- Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yw codi genitalia allanol benywod yn llwyr neu’n rhannol am resymau diwylliannol yn hytrach na meddygol. Mae’n arfer creulon, peryglus a phoenus a gall ei effeithiau bara oes. (Cymunedau Mwy Diogel Cymru)
- Casgliad o arferion yw’r hyn a elwir yn Cam-drin/Trais ar Sail ‘Anrhydedd’, a ddefnyddir i reoli ymddygiad mewn teuluoedd neu grwpiau cymdeithasol eraill i ddiogelu credoau diwylliannol a chrefyddol a/neu anrhydedd canfyddedig. Gall Cam-drin/Trais ar Sail ‘Anrhydedd gynnwys llofruddiaeth, priodasau dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod a threisio. (Cymunedau Mwy Diogel Cymru)
- Patrwm o ymddygiad obsesiynol yw stelcio sy’n fynych, yn barhaus, yn ymwthiol ac yn achosi ofn o drais neu’n creu braw a thrallod i’r dioddefwr (Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh)
- Aflonyddu yw ymddygiad annymunol gan rywun arall sy’n gwneud i chi deimlo’n ofidus, yn llawn cywilydd neu dan fygythiad. (Cymunedau Mwy Diogel Cymru)
- Sbeicio yw pan fydd sylweddau neu alcohol yn cael eu cymryd heb yn wybod i berson neu heb ei ganiatâd a gall arwain at ei wneud yn agored i niwed a cham-drin. (Cymunedau Mwy Diogel Cymru)
- Meithrin perthynas amhriodol yw proses sy’n cynnwys y troseddwr yn meithrin perthynas â pherson agored i niwed, ac weithiau gyda’i deulu ehangach gan ennill ei ymddiriedaeth a sefyllfa o bŵer drosto, er mwyn paratoi ar gyfer cam-drin. (NSPCC)
- Cam-drin ‘traddodiadol’ yw cam-drin wedi’i hwyluso gan ddulliau seiber sy’n cael ei hwyluso gan y defnydd o dechnoleg e.e. Seiberstelcio, neu dwyll ar-lein fel swyno drwy dwyll. (Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru)
- Cam-drin y gellir ond ei gyflawni drwy ddefnyddio technoleg ddigidol e.e. hacio, ysbïwedd yw cam-drin sy’n dibynnu ar ddulliau seiber. (Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru)
- Math o flacmel ar-lein yw blacmel rhywiol (sextortion). Dyma pryd y bydd troseddwyr yn bygwth rhannu lluniau rhywiol, fideos neu wybodaeth amdanoch oni fyddwch yn talu arian i wneud rhywbeth arall nad ydych yn dymuno’i wneud. (Police.UK)
- Defnydd mynych a bwriadol o’r rhyngrwyd a dulliau cyfathrebu electronig eraill i gyfathrebu mewn modd parhaus a dieisiau gyda’r bwriad o ddychryn rhywun, ei fygwth neu aflonyddu arno yw seiberstelcio. (Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru)
- Ffugiadau dwfn (deepfakes) yw cynnwys wedi’i greu a’i addasu’n ddigidol, a hynny’n aml ar ffurf delweddau, fideos a recordiadau sain ffug. (Police.UK)
- Camddefnyddio delweddau o natur bersonol heb gydsyniad (NCII) (a adwaenir hefyd fel ‘pornograffi dial’) yw pan fydd rhywun yn rhannu neu’n bygwth rhannu ffotograffau neu fideos personol ohonoch heb eich caniatâd. Mae hyn yn cynnwys ffugiadau dwfn. (Police.UK)
- Seiberfflachio yw pan fydd rhywun yn anfon ffotograff o’i organau cenhedlu atoch heb eich caniatâd. Mae gwneud hyn yn anghyfreithlon. (Police.UK)
- Gall radicaleiddio ddigwydd pan fydd rhywun yn datblygu barn neu gredoau eithafol sy’n cefnogi grwpiau neu weithgareddau terfysgol. Y mathau o derfysgaeth fwyaf cyffredin yn y DU yw terfysgaeth Asgell Dde Eithafol a therfysgaeth Islamaidd. (GOV.UK)
- Grwpiau rhwydwaith yw’r Manosffer sydd ag ideolegau cas a threisgar tuag at fenywod. Mae hyn yn cynnwys yr is-grwpiau canlynol: Incels (pobl ddi-briod anwirfoddol) ac Artistiaid bachu (pick-up artists). (Comisiynydd y Dioddefwr)
- Mae Cod Ymarfer y Dioddefwr (VCOP) yn dangos beth fydd yn digwydd o’r cyfnod pan roddir gwybod am drosedd i’r hyn fydd yn digwydd ar ôl treial, os bydd un yn nodi manylion hawliau’r dioddefwr drwy’r broses hon. (Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru)
- Cynllun yw Hawl Dioddefwr i Adolygiad (VRR) sy’n rhoi’r hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad o benderfyniad yr heddlu i beidio â chyhuddo rhywun a amheuir. Mae VRR yn gymwys i achosion lle mae rhywun a amheuir wedi’i nodi a’i gyfweld dan rybudd. Mae hyn yn digwydd naill ai ar ôl iddynt gael eu harestio neu am eu bod wedi gwirfoddoli i gael cyfweliad. (Police.UK)
Cod Ymarfer i Ddioddefwr
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yn nodi’r hyn sy’n digwydd o’r adeg pan gaiff trosedd ei riportio i’r hyn sy’n digwydd ar ôl treial, os oes un. Mae’r Cod Ymarfer yn esbonio beth yw eich hawliau.
Mae’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau hefyd ar gael mewn fformatau Hawdd ei Ddarllen, Print Bras ac Iaith Arwyddion Prydain, yn ogystal ag mewn nifer o’r ieithoedd a siaredir yn fwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr.
(Gwefan Allanol)Acronymau
ACEs |
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod |
ASE |
Camfanteisio’n Rhywiol ar Oedolion |
BCU |
Uned Reoli Sylfaenol |
CARA |
Rhybuddio a Cham-drin mewn Perthynas |
CC |
Rhybuddiad amodol |
CCE |
Camfanteisio’n Droseddol ar Blant |
CSAE |
Cam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant |
ChIDVA |
Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig Plant |
ChISVA |
Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol Plant |
CJB |
Bwrdd Cyfiawnder Troseddol |
SCT |
System Cyfiawnder Troseddol |
CMET |
Cyd-destunol, Coll, Wedi’u Hecsbloetio a’u Masnachu |
CPS |
Gwasanaeth Erlyn y Goron |
CSA |
Ymosod yn Rhywiol ar Blant |
CSE |
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant |
DA |
Cam-drin Domestig |
DA JJP |
Domestic Abuse Joint Justice Plan |
DARA |
Asesiad Risg Cam-drin Domestig |
DASH |
Cam-drin Domestig, Stelcio, Aflonyddu a Cham-drin ar Sail Anrhydedd |
DAPN |
Hysbysiad Gwarchod Cam-drin Domestig |
DAPO |
Gorchymyn Amddiffyn Cam-drin Domestig |
DHR |
Adolygiad o Laddiadau Domestig |
DVDS |
Cynllun Datgelu Trais Domestig |
DVPN |
Hysbysiad Diogelu Rhag Trais Domestig |
DVPO |
Gorchymyn Amddiffyn Cam-drin Domestig |
FGM |
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod |
FM |
Priodas dan Orfod |
GBV |
Trais ar Sail Rhywedd |
HBA |
Cam-drin ar Sail Anrhydedd fel y’i Gelwir |
HMCTS |
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi |
HMPPS |
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi |
HO |
Y Swyddfa Gartref |
HSB |
Ymddygiad Rhywiol Niweidiol |
IDVA |
Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig |
ISVA |
Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol |
IOPC |
Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu |
IPV |
Trais gan Bartner Agos |
ISAC |
Gweithwyr Achos Eiriolaeth Stelcio Annibynnol |
ISP |
Protocol Rhannu Gwybodaeth |
LHDTC/RhA |
Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Cwiar, Cwestiynu, Rhyngryw neu Arywiol |
MACE |
Camfanteisio ar Blant Amlasiantaethol (Cyfarfod) |
MAPPA |
Trefniant Diogelu’r Cyhoedd Amlasiantaethol |
MARAC |
Cydlynu Asesiadau Risg Amlasiantaethol |
MASH |
Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth |
MoJ |
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder |
MPIT |
Tîm Ymchwilio i Unigolyn Coll |
NCA |
Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol |
NCII |
Lluniau o Natur Bersonol na roddwyd Cydsyniad iddynt (Camddefnyddio) |
NGO |
Corff Anllywodraethol |
OIC |
Swyddog Cyfrifol |
OoCR |
Penderfyniad y Tu Allan i’r Llys |
SCHTh |
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu |
CHTh |
Comisiynydd Heddlu a Throseddu |
PHA |
Dull Iechyd y Cyhoedd |
PHW |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
PiW |
Plismona yng Nghymru |
PPN |
Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd |
PPSD |
Adran Ddiogelwch a Diogelu’r Cyhoedd |
PSD |
Yr Adran Safonau Proffesiynol |
RASSO |
Treisio a Throseddu Rhywiol Difrifol |
RES |
Safleoedd Tystiolaeth o Bell |
RIT |
Tîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio |
RSB |
Bwrdd Diogelu Rhanbarthol |
RSE |
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb |
SAFE |
Diogelu’r Glasoed rhag Camfanteisio |
SARC |
Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol |
SHPO |
Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol |
SPO |
Deddf Diogelu rhag Stelcio |
SRO |
Gorchymyn Risg Rywiol |
SSOM |
Mesur Canlyniad Gwasanaeth Cymorth |
STROs |
Gorchmynion Caethwasiaeth a Risg Masnachu Pobl |
SU |
Defnyddio Sylweddau |
SUSR |
Adolygiad Diogelu Unedig Sengl |
SV |
Trais Rhywiol |
HDC |
Heddlu De Cymru |
VAWDASV |
Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol |
VAWG |
Trais yn erbyn Menywod a Merched |
VCOP |
Y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr |
VPU |
Yr Uned Atal Trais |
VRI |
Cyfweliad wedi’i Recordio ar Fideo |
VRR |
Hawl Dioddefwyr i Adolygiad |
WPWSA |
Dull System Gyfan y Rhaglen Fraenaru i Fenywod |
WSAS |
Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru |