Ynghylch Mitch Theaker
Mae Mitch wedi gweithio ym maes llywodraeth leol, gwleidyddiaeth genedlaethol, a diplomyddiaeth ryngwladol. Pan oedd yn 21 oed, cafodd Mitch ei ethol yn Gynghorydd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.
Yn ddiweddarach, cafodd ei benodi’n Aelod o Gabinet Cyngor Abertawe, lle bu’n arwain y cynllun lleihau troseddau ieuenctid, mynd i’r afael â thlodi ac yn hyrwyddo ymyrraeth gynnar a chyfiawnder adferol. Helpodd Mitch i sefydlu banc bwyd, i gyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ym mholisi’r Cyngor ac i arwain ymgyrch lwyddiannus i fynd i’r afael â benthycwyr arian.
Fel Cynghorydd Arbennig ar gyfer Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bu Mitch yn gweithio ar nifer o feysydd polisi, gan gynnwys helpu i greu’r Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), gan amddiffyn yr unigolion mwyaf agored i niwed yn ystod COVID-19, cefnogi cymunedau’r Cymoedd a wynebodd lifogydd, yn ogystal â chefnogi rhaglen Canolfan Groeso Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid Wcrain. Yn fwyaf diweddar, gwasanaethodd Mitch fel diplomydd yn India gan arwain ymdrechion i hyrwyddo masnach a buddsoddiad yng Nghymru, meithrin partneriaethau strategol a chynrychioli Cymru ar lwyfan byd-eang.
Mae Mitch yn dod o deulu â thraddodiad balch o wasanaethu’r cyhoedd, a bu ei rieni’n gwasanaethu fel Swyddogion yr Heddlu ac mae aelodau o’i deulu yn gwasanaethu gyda’r Heddlu Metropolitanaidd o hyd. Mae gan Mitch brofiad proffesiynol a dealltwriaeth bersonol o bwysigrwydd cyfiawnder, tegwch, ac ymddiriedaeth mewn plismona.
Mae Mitch yn aelod balch o’r gymuned LHDTC+ ac fel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, bydd yn gweithio i gyflawni Cynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder y Comisiynydd, gan.