TEITL SWYDD: Prif Swyddog Data a Chraffter yr Uned Atal a Lleihau Trais (VPRU)
GRADD: PO1/PO2- £41,487.00 – £47,046.00 (Pro-rata)
LLEOLIAD: Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
ORIAU: 29.6 awr yr wythnos
CYFNOD: Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028 / Cyfle am secondiad neu fenthyciad (a ariennir drwy Grant Partneriaeth Lleihau Trais Difrifol y Swyddfa Gartref).
FETIO: MV/SC (FETIO RHEOLI/CLIRIAD DIOGELWCH
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru am benodi Prif Swyddog Data a Chraffter i ymuno â’r Uned Atal a Lleihau Trais (VPRU). Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddull iechyd y cyhoedd amlasiantaethol De Cymru o atal trais, ymyrryd yn gynnar a newid y system.
Bydd deiliad y swydd yn rhagweithiol ac yn gweithio i safon uchel wrth gydlynu gwybodaeth, ymchwil, ynghyd â gwaith casglu, adolygu a dehongli data, ar draws sawl ffynhonnell mewn perthynas â:
- Helpu i gyflawni camau yng Nghynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder sy’n berthnasol i atal troseddau a lleihau trais;
- Helpu’r Uned Atal a Lleihau Trais i gyflawni dyletswyddau’r Grant Partneriaeth Lleihau Trais Difrifol a’r Ddyletswydd Trais Difrifol;
- Helpu i gyflawni’r camau a nodwyd yn Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru;
- Cefnogi gofynion Bwrdd Strategol Atal a Lleihau Trais De Cymru a’i is-grwpiau o ran ymarfer ar sail tystiolaeth.
Bydd deiliad y swydd yn canolbwyntio ar arwain ar Asesiadau Anghenion Strategol Trais Difrifol De Cymru a rhai lleol ar sail flynyddol, gan sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o drais a chamfanteisio. Bydd yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i gryfhau prosesau rhannu data, yn ogystal â mabwysiadu ymagwedd ar sail ymchwil a thystiolaeth i wella dealltwriaeth ar y cyd o’r hyn sy’n gweithio i atal trais. Gan weithio’n agos gyda Dadansoddwr y VPRU, bydd deiliad y swydd yn nodi patrymau, risgiau a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg. Bydd deiliad y swydd yn mabwysiadu ymagwedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi’r Uned a phartneriaid ehangach i wneud penderfyniadau am fuddsoddi, i dargedu cymorth ac ymyriadau yn briodol ac i weithio ar y cyd i gefnogi cymunedau mwy diogel a mwy gwydn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad mewn rôl debyg, bydd yn gallu defnyddio rhaglenni Microsoft ac yn gallu llunio adroddiadau cynhwysfawr, rhesymegol a strwythuredig o safon uchel. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflwyno i unigolion a grwpiau, bydd yn hyderus wrth weithio mewn amgylchedd amlasiantaethol prysur ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith cryf ar draws meysydd plismona, iechyd, addysg, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.
Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrechion atal a lleihau trais ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled De Cymru.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith.
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr a llythyr eglurhaol manwl sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rôl hon (gan roi sylw i feini prawf y rhestr fer a nodir ym Mhroffil y Rôl). Dylech hefyd gwblhau’r Ffurflen Wybodaeth Manylion Personol a Monitro ac anfon yr holl ddogfennau i: hrcommissioner@south-wales.police.uk erbyn 12YP 10/08/2026. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn unol â hynny.
Dogfennau Ategol
Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.
Adnoddau